Bugeilio'r Gwenith Gwyn

Oddi ar Wicipedia
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolgwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cân werin draddodiadol yw Bugeilio'r Gwenith Gwyn. Yn ôl traddodiad, Ann Thomas, mwy adnabyddus fel y Ferch o Gefn Ydfa, yw testun y gân a gyfansoddwyd gan Wil Hopcyn.


Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Geiriau[golygu | golygu cod]

Mi sydd fachgen ieuanc ffôl
Yn byw yn ôl fy ffansi,
Myfi'n bugeilio'r gwenith gwyn,
Ac arall yn ei fedi.
Pam na ddeui ar fy ôl,
Ryw ddydd ar ôl ei gilydd?
Gwaith 'rwy'n dy weld, y feinir fach,
Yn lanach, lanach beunydd.

Glanach, glanach wyt bob dydd,
Neu fi yn wir sy'n ffolach;
Er mwyn y Gŵr a wnaeth dy wedd
Dod im' drugaredd bellach.
Cwnn dy ben, gwel acw draw,
Rho im' dy law wen dirion;
Gwaith yn dy fynwes bert ei thro
Mae allwedd clo fy nghalon.

Tra fo dŵr y môr yn hallt,
A thra bo gwallt yn tyfu,
A thra fo calon dan fy mron
Mi fydda'n ffyddlon iti;
Dywed imi'r gwir heb gêl,
A rho dan sêl d'atebion,
P'un ai myfi ai arall, Ann
Sydd orau gan dy galon.

Y diwn[golygu | golygu cod]

Fersiwn cyntaf cyhoeddwyd[golygu | golygu cod]

Cyfansoddwyd y melodi a'r geiriau gan Maria Jane Williams yn 1844:[1]

\relative c' { \time 3/8 \key f \major \autoBeamOff \tempo 8 = 90 \set Score.tempoHideNote = ##t
\partial 16 f16                                %  0
f16 [(a)] c8. a16                              %  1
bes16 bes a8. bes16                            %  2
c16 a f8. a16                                  %  3
c16 c r8. a16                                  %  4
bes16 bes \grace { bes16 [(c16)] } d8. bes16   %  5
a16 a c8. bes16                                %  6
a16 g g8. \grace f16 (e16)                     %  7
f16 f r8. f16                                  %  8
f16 f' f8. d16                                 %  9
bes16 bes bes8. a16                            % 10
g16 g' g8. e16                                 % 11
c16 c8 r8 a16                                  % 12
bes16 bes \grace { bes16 [(c16)] } d8. bes16   % 13
a16 a c8. bes16                                % 14
a16 g g8. \grace f16 (e16)                     % 15
f16 f8. \bar "|."                              % 16
} \addlyrics {
Mi sydd fach -- gen ieu -- angc ffol
yn ca -- ru'n ol fy ffan -- si
Mi -- yn bu -- geil  io’r gwen -- ith gwyn
ac a -- raill yn ei fed -- i
O' pam na ddew -- i ar fy ôl
Ryw ddydd ar ol ei gi -- lydd
gwaith 'rwy'n dy weled y fei -- nir fach
O! gla -- nach la -- nach beu -- nydd.
}

Fersiwn modern[golygu | golygu cod]

Fersiwn modern o'r gan:

\relative c' { \time 3/4 \key d \major \tempo 4 = 90 \set Score.tempoHideNote = ##t
d8 fis a4. fis8       %  1
g8 g fis4. g8         %  2
a8 fis d4. fis8       %  3
a8 a4. r8 fis         %  4
g8 g b4. g8           %  5
fis8 fis8 a4. fis8    %  6
fis8 e e4. d16( cis)  %  7
d8 d4. ~ d4           %  8
d8 d d'4. b8          %  9
g8 g g4. fis8         % 10
e8 e e'4. cis8        % 11
a8 a4. r8 fis8        % 12
g8 g b4. g8           % 13
fis8 fis a4. fis8     % 14
fis8 e e4. d16( cis)  % 15
d8 d4. ~ d4 \bar "|." % 16
} \addlyrics {
Mi sydd fach -- gen ieu -- anc ffôl
Yn byw yn ôl fy ffan -- si,
My -- fi’n bu -- gei -- lio’r gwen -- ith gwyn,
Ac ar -- all yn ei fe -- di.
Pam na ddeu -- i ar fy ôl,
Ryw ddydd ar ôl ei gi -- lydd?
Gwaith ’rwy’n dy weld, y fei -- nir fach,
Yn la -- nach, la -- nach beu -- nydd.
}

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Williams, Maria Jane (1844). Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg. Llandovery: William Rees. tt. 38–39. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 March 2016.