Bryngaer Cerrig-y-dinas
Gwedd
![]() | |
Math | bryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2479°N 3.8686°W ![]() |
Cod OS | SH75427395 ![]() |
![]() | |
Bryngaer yn Sir Conwy yw bryngaer Cerrig-y-dinas. Fe'u lleolir ar fryn Cerrig-y-dinas (Cerrig-y-ddinas ar y map OS), ychydig i'r gogledd o hen eglwys Llangelynnin yng nghymuned Henryd. Mae'n dyddio o Oes yr Haearn.[1]
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4c/Farmland_above_Llangelynin_-_geograph.org.uk_-_1564891.jpg/250px-Farmland_above_Llangelynin_-_geograph.org.uk_-_1564891.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/be/Eglwys_Llangelynnin.jpg/250px-Eglwys_Llangelynnin.jpg)
Gerllaw ceir clwstwr o gytiau cynhanesyddol sydd, yn ôl pob tebyg, yn gysylltiedig â'r fryngaer hon.
Cadwraeth[golygu | golygu cod]
Mae'r fryngaer ar dir preifat. Nid yw'r fryngaer hon ar restr Cadw o fryngaerau cofrestredig (gweler Rhestr o fryngaerau yng Nghymru wedi'u cofrestru).
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Atlas of Caernarvonshire (Caernarfon, 1976).