Brwydr Stryd Watling
| Enghraifft o: | brwydr |
|---|---|
| Dyddiad | 60, 61 |
| Rhan o | goresgyniad Prydain gan y Rhufeiniaid |
| Lleoliad | Stryd Watling |
| Gwladwriaeth | Britannia |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0424y2 |

Brwydr fawr tua'r flwyddyn 61 OC oedd Brwydr Stryd Watling, rhwng yr Iceni a'r nawfed lleng Rhufeinig, sef Legio IX Hispana. Ymladdodd y llwyth Celtaidd o dan eu harweinydd Buddug ac fe lwyddasant i gipio Verulamium (St Albans), y brifddinas Rufeinig ar y pryd Camelodunum (Colchester), ynghyd â phorthladd Londinium (Llundain).
Brysiodd y rhaglaw Suetonius Paulinus a'i fyddin yn ôl o Fôn gyda byddin o tua deng mil o wŷr: Legio XIV Gemina, rhan o Legio XX Valeria Victrix a rhai milwyr cynorthwyol. Cyfarfu â Buddug a'i llu ger High Cross ar Stryd Watling a bu brwydr enfawr. Ymladdodd yr Iceni yn ffyrnig ond, er bod ganndynt fantais sylweddol o ran nifer, roedd y llengfilwyr Rhufeinig yn rhy ddisgybliedig iddynt. Ffoes Buddug a gweddillion ei byddin adref. Ymddengys ei bod wedi lladd ei hun yno yn hytrach na dioddef y gwarth o weld ei llwyth a'i theyrnas yn cael eu hanreithio.