Brwydr Stow-on-the-Wold

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Maes y frwydr
Cyfesurynnau: 51°56′29.83″N 1°43′49.22″W / 51.9416194°N 1.7303389°W / 51.9416194; -1.7303389

Digwyddodd Brwydr Stow-on-the-Wold yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr yng ngwanwyn 1646. Roedd Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban yn ei chael yn fwy fwy anodd i gadw'r byddinoedd gyda'i gilydd fel yr oedd yn gorfod aros am gymorth o Iwerddon, yr Alban, a Ffrainc. Gwnaeth Syr Jacob Astley gasglu gweddillion y byddinoedd yn y Gorllewin at ei gilydd. a dechreuodd gasglu'r byddinoedd garsiynau a oedd yn bodoli o hyd yn y gorllewin. Erbyn hyn, roedd ysbryd y milwyr yn isel, ond roedd gallu Astley fel milwr profiadol, llwyddodd i ddod â byddin o 3,000 at ei gilydd.

Y Frwydr[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Astley yn ceisio cyrraedd Rhydychen gyda'i fyddin pan glywodd Senedd Lloegr amdano. O ganlyniad, roedd brwydr ar hyd afon Avon wrth i Astley geisio efadu'r byddin arall. Yn y diwedd, nid oedd dim byd arall y gallai Astley wneud ond stopio i ymladd y byddin Roundhead a arweiniwyd gan y Cyrnol Thomas Morgan a Syr William Brereton. Dewisodd Astley fryn i'r gogledd-ddwyrain yn Stow-on-the-Wold, sydd bellach ar bwys yr A424.

Nodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]