Brwydr Clontarf
Gwedd
Math | brwydr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Clontarf |
Cyfesurynnau | 53.365°N 6.1975°W, 53.365°N 6.21°W |
Cyfnod | 23 Ebrill 1014 |
Brwydr bwysig yn hanes Iwerddon oedd Brwydr Clontarf (Gwyddeleg: Cath Chluana Tarbh), a ymladdwyd ar Ddydd Gwener y Groglith (23 Ebrill), 1014. Ymladdwyd y frwydr rhwng Uchel Frenin Iwerddon, Brian Boru (Brian mac Cennétig) a byddin Brenin Leinster, Máel Mórda mac Murchada, oedd yn cynnwys llawer o Lychlynwyr Dulyn dan arweiniad cefnder Máel Mórda, Sigtrygg Farf Sidan (un o hynafiaid Gruffudd ap Cynan ar ochr ei fam, Ragnell, y cyfeirir ato fel 'Sutrig frenin' yn yr achrestr yn Hanes Gruffudd ap Cynan).
Bu byddin Brian Boru yn fuddugol, ond lladdwyd ef ei hun gan nifer fychan o Lychlynwyr a ddaeth ar draws ei babell yn ddamweiniol wrth ffoi o faes y gad. O ganlyniad, ymrannodd Iwerddon yn nifer o deyrnasoedd annibynnol eto.