Brwydr Bir Hakeim
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | brwydr ![]() |
Dyddiad | 11 Mehefin 1942 ![]() |
Rhan o | Brwydr Gazala ![]() |
Dechreuwyd | 26 Mai 1942 ![]() |
Daeth i ben | 11 Mehefin 1942 ![]() |
Lleoliad | Bir Hakeim ![]() |
![]() | |
![]() |
Digwyddodd Brwydr Bir Hakeim mewn gwerddon yn anialwch Libia, lleoliad hen gaer Twrcaidd. Yn ystod Brwydr Gazala amddiffynnwyd y lleoliad gan y Cadfridog Marie Pierre Koenig a'r Adran Rhydd 1af Ffrainc o 26 Mai hyd 11 Mehefin 1942 yn erbyn ymosodiadau gan luoedd yr Almaen a'r Eidal a oedd o dan arweinyddiaeth y Cadfridog Erwin Rommel. Llwyddont i wrthsefyll yr ymosodiad am 16 diwrnod, rhoddodd Adran Rhydd Ffrainc ddigon o amser i'r Wythfed Fyddin Brydeinig, a oedd yn encilio, allu aildrefnu a'u galluogi i atal yr Axis rhag symud ymlaen ym Mrwydr Cyntaf El Alamein.
Mae'r frwydr yn cael ei choffáu mewn nifer o enwau llefydd yn Ffrainc, gan gynnwys pont de Bir-Hakeim, y bont sy'n croesi Afon Seine ger Tŵr Eiffel ym Mharis.