Briallen Fair Sawrus
Gwedd
| Enghraifft o: | tacson |
|---|---|
| Safle tacson | rhywogaeth |
| Rhiant dacson | Primula |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03xmn0 |
| Briallen Fair Sawrus | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
| Urdd: | Ericales |
| Teulu: | Primulaceae |
| Genws: | Primula |
| Rhywogaeth: | P. veris |
| Enw deuenwol | |
| Primula veris L. | |

Planhigyn bach lluosflwydd gyda blodau persawrus melyn yw Briallen Fair Sawrus (Saesneg: Cowslip). Mae'n perthyn i deulu'r friallen a elwir yn Lladin yn Primula veris.
Enwau eraill
[golygu | golygu cod]Allweddau Pedr, Briallu Mair Sawrus, Briallu Dwbl, Dagrau Mair, Llysiau'r Parlys, Teth y Fuwch, Sawdl y Fuwch, Troed y Fuwch, Tafod yr Ych, Sgemran yr Ych, Symylen, Shwmbwls, Tewbanog Fechan.
Rhinweddau meddygol
[golygu | golygu cod]Dywedir bod rhoi poltis ohono ar yr arlais yn beth da at ddiffyg cwsg.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Awgrym y sylw canlynol yw bod briallu Mair yn brin ym Môn yn hanner cyntaf yr 18g. a bod posibilrwydd bod y rhywogaeth wedi cael help llaw garddwyr i ymsefydlu:
- Llanfechell, Mon Ebrill 1734: April 8: ’’I had a present of rare flower seeds from Cousin...April 10. This evening I sowed Cowslip seed in Cae'rhyd y Gaseg, etc.’’[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Yr Herald Cymraeg
- ↑ Trans. AAS&FC 1931 (The Diary of William Bulkeley of Brynddu, Anglesey)