Bragod

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Deuawd a ffurfiwyd yn 1999 gan Robert Evans (crwth, lyra a llais) a Mary-Anne Roberts (llais) ydy Bragod. Ystyr 'bragod' yw diod a geir wrth eplesu cwrw â mêl neu berlysiau.

Aelodau[golygu | golygu cod y dudalen]

Magwyd Robert Evans yng ngogledd Ceredigion; dechreuodd astudio cerddoriaeth ganoloesol Gymreig ynghanol y 1970au, a datblygodd yrfa fel gwneuthurwr telynau hanesyddol. Mae Mary-Anne Roberts yn hanu o Drinidad a Thobago, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig yn nhraddodiadau carnifal Trinidad. Bu'r ddau hefyd yn aelodau o'r grŵp Lyrae Cambrenses gyda William Taylor, arbenigwr ar ganu'r delyn hanesyddol.

Maes[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif nod Bragod yw perfformio cerddoriaeth Gymreig a barddoniaeth Gymraeg o'r cyfnod cyn c.1600, gan ailgyfuno traddodiadau cerdd dafod a cherdd dant. Yn ogystal â defnyddio cyrchddull hanesyddol i archwilio cerddoriaeth a barddoniaeth y cyfnod, mae Robert Evans wedi datblygu technegau crwth a lyra ar sail ysgrifau hynafol o Gymru ac Ewrop. Daw seiliau iaith gerddorol y grŵp yn bennaf o'r gerddoriaeth a nodir yn llawysgrif telyn Robert ap Huw (c.1580–1665) (Y Llyfrgell Brydeinig, Llawysgrif Add. 14905). Cofnodwyd y gerddoriaeth ar ffurf tablun tua 1613 ond mae'n adlewyrchu traddodiad barddol hŷn. Cynhwysa gorff o gerddoriaeth telyn sy'n unigryw yn Ewrop, ac mae'n cyfateb i draethodau canoloesol Cymraeg sy'n disgrifio Pedwar mesur ar hugain Cerdd Dant. Addasodd Robert Evans gerddoriaeth telyn llawysgrif Robert ap Huw er mwyn ei chanu ar y crwth, yn ogystal â chreu cerddoriaeth newydd ar sail y mesurau, y cyweiriau (h.y. y tiwniadau moddau) a'r addurniadau a nodir ynddi.

Mae sain y crwth yn gyfoethog mewn harmonigau, yn enwedig pan y'i cenir mewn tonyddiaeth hanesyddol. Mewn ymateb i ddisgrifiad Seisnig o'r 16g sy'n cymharu llais Cymro gyda'i delyn i suo gwenynen (the hussyng of a homble be), datblygodd Mary-Anne Roberts sain llais unigryw er mwyn pwysleisio'r cyseiniannau a geir wrth i'r crwth a'r llais gydseinio.

Perfformio a chyhoeddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ogystal ag ymchwilio a pherfformio'n fyw, mae Bragod wedi rhyddhau tri chrynoddisg. Mae'r ddau gyntaf yn cynnwys cymysgedd o eitemau amrywiol: caneuon traddodiadol Cymraeg ochr yn ochr ag alawon poblogaidd o'r 16g, cân Nadolig o Drinidad a gosodiadau o'r Hengerdd. Yn fwy diweddar aethpwyd ati i ddehongli cerddi hirach. Ar 'Kaingk' (BRA, 2004), ceir perfformiad o 'Ystorya Trystan', cerdd Arthuraidd sy'n dyddio'n rhannol o'r 12g ac yn rhannol o'r 14–15g Ar gyfer hon, cyfansoddwyd alaw newydd syml uwchben amrywiad ar y mesur cerdd dant 'makymwn hir'. Perfformiadau estynedig o gerddi canoleosol yn unig a geir ar Llatai (BRA, 2013), eu trydydd cryno-ddisg: gosodiadau o ddwy gerdd gan Dafydd ap Gwilym ('Yr Wylan' ac 'Offeren y Llwyn') ac 'Ymddiddan Arthur a'r Eryr', cerdd hir anhysbys o'r 12g.

I'r rhan fwyaf o grwpiau sy'n perfformio cerddoriaeth orllewinol o'r cyfnodau cynnar, mae'r testun cerddorol gan amlaf yn orffenedig ac wedi'i nodi'n gyfan. Ond ar wahân i gynnwys llawysgrif Robert ap Huw, cymharol brin yw'r deunydd cerddorol cynhenid Gymreig y gellir ei bridoli i'r cyfnod cyn 1600. Felly er mwyn perfformio cerddoriaeth Gymreig o'r Oesoedd Canol, mae aelodau Bragod yn creu rhannau sylweddol o'u deunydd cerddorol o'r newydd, gan ddefnyddio cerddoriaeth ganoloesol frodorol fel sail, a damcaniaeth gerddorol Gymreig ac Ewropeaidd fel canllawiau. Wrth gyfuno cerdd dant a cherdd dafod, ail-greu technegau offerynnol a datblygu byd sain amgen trwy ddefnydd heriol o'r llais, mae Bragod felly'n cyfuno cyrchddull hanesyddol gydag agweddau arbrofol.

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Welsh Music and Poetry from the 14th to the 18th Century (BRA 001, 2001)
  • Kaingk: Medieval and Later Welsh Music and Poetry (BRA 002, 2004)
  • Llatai (BRA 003, 2013)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Bragod, gan Stephen Powell Rees ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Comisiynwyd y cofnod hwn yn wreiddiol ar gyfer Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, (Y Lolfa, 2018). Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.