Borscht

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bowl of Ukrainian Borscht.jpg

Cawl sur yw borscht sydd yn boblogaidd mewn sawl gwlad yn Nwyrain Ewrop, gan gynnwys Wcrain, Rwsia, Lithwania, Rwmania, Gwlad Pwyl a Belarws. Mae'r riset mwyaf cyffredin yn o darddiad Wcrain ac yn cynnwys betys cochion fel un o'r prif gynhwysion, sydd yn gwneud y ddysgl yn goch. Defnyddir yr un gair, fodd bynnag, ar amryw o gawliau sur heb fetys.

Mae'n cael ei goginio fel arfer drwy gyfuno stoc cig neu esgyrn gyda llysiau wedi'u ffrio'n ysgafn, sydd yn ogystal â betys, fel arfer, yn cynnwys bresych, moron, winwns, tatws a thomatos. Yn dibynnu ar y rysáit, gall gynnwys cig neu bysgod, neu'n llysieuol yn unig; gall fod yn boeth neu oer, a gall amrywio o bryd swmpus i gawl glir.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]