Bois y Frenni

Oddi ar Wicipedia
Bois y Frenni
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata

Parti noson lawen o ardal Crymych, Sir Benfro, a gafodd ei ffurfio yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd Bois y Frenni.

Ffurfio[golygu | golygu cod]

Fe'i ffurfiwyd yn wreiddiol er mwyn cynnig adloniant yn lleol ac i godi ysbryd y gymdogaeth mewn cyfnod anodd. Cynhaliwyd eu perfformiad cyntaf yn Neuadd Bentref Boncath ar 6 Tachwedd 1940 dan arweiniad sylfaenydd y parti, William Rees Evans (1910–91), a oedd yn awdur cerddi ysgafn a chyfansoddwr caneuon ysgafn. Roedd yn frodor o Fynachlog-ddu a bu'n athro yn Abergwaun a'r Barri ac yna'n drefnydd iaith ac arolygydd ysgolion yn Sir Benfro. Roedd Evans yn adnabyddus fel arweinydd nosweithiau Bois y Frenni am hanner canrif.

Arddull[golygu | golygu cod]

O ystyried mai yng nghysgod yr Ail Ryfel Byd y sefydlwyd y grŵp, nid yw'n syndod gweld cyfeiriadaeth at awyrennau a bomiau yn rhai o'u caneuon cynnar, fel 'Cwtsh Dan Stâr', a hynny yn nhafodiaeth naturiol yr ardal:

Mae gennyf loches rhag y bom
Cwtsh dan Stâr, cwtsh dan stâr
Lle rhed y wraig, a fi a'r pom
Cwtsh bach net dan stâr
Caf yno lonydd rhag pob sŵn
Rhag eroplên a chyfarth cŵn'.

Yn wahanol i grwpiau'r 'Hogiau', oedd ar y cyfan yn hanu o Ogledd Orllewin Cymru ac aelodaeth cymharol ddigyfnewid yn perthyn iddynt, drwy gadw'r aelodaeth yn fwy hyblyg, llwyddodd grwpiau'r 'Bois' i ddatblygu a pharhau am flynyddoedd lawer. Adloniant, hwyl a chwmnïaeth yr aelodau drwy ganu caneuon ysgafn y cyfnod oedd prif amcan sefydlu'r 'Bois'.

Dathliad 75 mlynedd[golygu | golygu cod]

Yn Nhachwedd 2015, er mwyn nodi 75 mlynedd ers sefydlu Bois y Frenni, cynhaliwyd cyngerdd yn yr un man lle'i clywid am y tro cyntaf: Neuadd Bentref Boncath.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Bois y Frenni, gan Sarah Hill a Wyn Thomas ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Comisiynwyd y cofnod hwn yn wreiddiol ar gyfer Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, (Y Lolfa, 2018). Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.