Bohumil Hrabal

Oddi ar Wicipedia
Bohumil Hrabal
Portread ffotograffig o Bohumil Hrabal ym 1988.
Ganwyd28 Mawrth 1914 Edit this on Wikidata
Brno-Židenice, Židenice Edit this on Wikidata
Bu farw3 Chwefror 1997 Edit this on Wikidata
o marwolaeth drwy gwymp Edit this on Wikidata
Prag Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Faculty of Law, Charles University in Prague Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, sgriptiwr, bardd, rhyddieithwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auhonorary doctor of the University of Padua Edit this on Wikidata

Llenor Tsiecaidd yn yr iaith Tsieceg oedd Bohumil Hrabal (28 Mawrth 19143 Chwefror 1997) sydd yn nodedig am ei straeon digrif, weithiau swreal, am gymeriadau tlawd a rhyfedd, pobl sy'n methu neu'n gwrthod cydymffurfio, ac eraill ar ymylon cymdeithas. Fe'i ystyrir yn un o'r brif ffuglenwyr yn llenyddiaeth Tsieceg yr 20g.

Ganed ef yn Židenice, Awstria-Hwngari (bellach yn faestref yn Brno, Tsiecia). Wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, pan oedd yn bedwar oed, cafodd ei fagu yn Tsiecoslofacia yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd. Yn ei ieuenctid teithiodd gyda'i dad, a weithiodd yn asiant i fragdy, gan gyfarfod â phobl ar draws Morafia a thrwytho'i feddwl glas ym mywydau bob dydd y werin a datgelu iddo bryderon, gwendidau, diddordebau, ac hynodweddau ei gyd-greaduriaid.[1] Dylanwadwyd arno'n enwedig gan ei ewythr, dyn parablus a ddaeth i ymweld â'r teulu am bythefnos ac a fyddai'n aros am 40 mlynedd.[2] Aeth i Brag i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Siarl. Caewyd y brifysgol yn sgil meddiannaeth y ddinas gan luoedd yr Almaen Natsïaidd ym 1939, ac er iddo dderbyn ei radd o'r diwedd ym 1946, ni weithiodd Hrabal erioed yn gyfreithiwr. Yn hytrach, cafodd sawl swydd wahanol nes iddo ddechrau ysgrifennu, gan gynnwys gweithio mewn theatr, ffatri, a swyddfa, ar y rheilffordd, ac yn trafaelio.[1][2]

Cychwynnodd ar ei yrfa lenyddol o'r diwedd ym 1962, yn 48 oed.[1] Cesglir ei straeon byrion cynnar yn y cyfrolau Perlička na dně (1963), Pábitelé (1964), ac Automat svět (1966), esiamplau o ffuglen drasicomig, heb gynllun i'r traethiad, yn debycach i anecdotau neu ysgrifennu rhydd na straeon confensiynol. Cyhoeddodd hefyd nofelau arbrofol megis Taneční hodiny pro starší a pokročilé (1964), a ysgrifennir ar ffurf un frawddeg hir, a'r Bildungsroman digrif Ostře sledované vlaky (1965). Ceisiodd rhai o aelodau'r awdurdodau comiwnyddol sensro'i waith, ond ni ddioddefai Hrabal fawr o ormes yn ystod blynyddoedd ei brifiant llenyddol. Y 1960au oedd oes "y Ton Newydd" yn sinema Tsiecoslofacia, ac addaswyd nifer o weithiau Hrabal ar gyfer y sgrin fawr. Mae'r ffilm fer Sběrné surovosti (1965) a phob un o rannau'r ffilm antholeg Perličky na dně (1966) yn seiliedig ar straeon o'i gyfrol o'r un enw, a chyd-ysgrifennodd Hrabal sgript y ffilm gomedi Ostře sledované vlaky (1966) gyda'r cyfarwyddwr Jiří Menzel.

Cefnogodd Hrabal y cyfnod o ryddfrydoli gwleidyddol ym 1968 a elwir Gwanwyn Prag. Daeth yr hwnnw i ben yn sgil goresgyniad gan luoedd Cytundeb Warsaw, a wynebai awduron, arlunwyr, a chelfyddydwyr eraill y wlad rwystrau gwleidyddol ar raddfa eangach. Hrabal oedd un o'r ychydig o lenorion Tsiecoslofacaidd na phenderfynodd i ffoi'r wlad neu i gydymffurfio â'r drefn newydd. Yn hytrach, mynegai ei hun fel y mynnai, gan ddefnyddio dull cudd-gyhoeddi samizdat i gyrraedd ei ddarllenwyr.[1] Gwrthododd i ildio i'r arfer o gyfiawnhau ei waith i'r llywodraeth trwy "hunan-feirniadaeth", ac o'r herwydd cafodd ei fwrw o fywyd diwylliannol cyhoeddus am wyth mlynedd. Dychwelodd i sylw ym 1976 wedi i'r llywodraeth ganiatau argraffiadau o'i nofel Postřižiny gael eu gwerthu mewn siopau llyfrau. Prynwyd pob un o'r 20,000 o gopïau ar y diwrnod cyntaf, ac ysgogwyd teimlad o adfer llên Tsiecoslofacia.[1]

Yn sgil cwymp y drefn gomiwnyddol yn y Chwyldro Melfed (1989), cyhoeddwyd rhai o weithiau enwocaf Hrabal am y tro cyntaf yn agored yn ei famwlad, gan gynnwys Obsluhoval jsem anglického krále (ysgrifennwyd 1973) a Příliš hlučná samota (ysgr. 1977). Bu farw Bohumil Hrabal yn 82 oed wedi iddo ddisgyn o ffenestr Ysbyty Bulovka ym Mhrag.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) Wolfgang Saxon, "Bohumil Hrabal, 82, Who Defied Censors in Wry Tales of Ordinary Czechs", The New York Times (6 Chwefror 1997). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Tachwedd 2023.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Bohumil Hrabal. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Tachwedd 2023.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Sioned Puw Rowlands, Hwyaid, Cwningod a Sgwarnogod: Esthetig Radical Twm Morys, Vaclav Havel a Bohumil Hrabal (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2006).