Bodhidharma
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | bod dynol ![]() |
Crefydd | Bwdhaeth, zen ![]() |
![]() |

Argraffiad bloc pren o Bodhidharma gan Yoshitishi, 1887
Mynach Bwdhaidd a fu fyw yn y 5g neu'r chweched CE oedd Bodhidharma. Ystyrir ef yn gyfrifol am ledu Ch'an (a adnabyddir gan y mwyafrif o bobl yn y Gorllewin yn ei rhith Siapaneaidd, sef Zen) i Tsieina.
Ni wyddys rhyw lawer am ei hanes oherwydd prinder gwybodaeth fywgraffiadol yn ei gylch ac o ganlyniad mae elfen o chwedl i gyfrifion o'i fywyd. Mae'r ffynhonellau Tsieineaidd am ei fywyd yn arddel hanesion gwahanol o wreiddiau Bodhidharma; mae ysgolheigion modern yn tybio y bu'n fyw yn y 5g.