Bochotnica
Gwedd
| Math | pentref Gwlad Pwyl |
|---|---|
| Poblogaeth | 1,001 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 20 km² |
| Uwch y môr | 123 metr |
| Gerllaw | Afon Vistula, Bystra |
| Cyfesurynnau | 51.3394°N 21.9931°E |
| Cod post | 24-120 |
![]() | |
Mae Bochotnica [bɔxɔtˈnit͡sa] yn bentref o fewn rhanbarth weinyddol Gmina Kazimierz Dolny yn nwyrain Gwlad Pwyl, rhwng Puławy a Lublin, ger Kazimierz Dolny, ar Afon Wisła. Saif 42 km i'r gorllewin o Lublin.[1] Mae'n ganolfan cymuned ar wahân o fewn Swydd Puławy. Yn 2010 roedd y boblogaeth yn 1,500.[2]
Saif adfeilion castell o'r 14g gerllaw.
Arferwyd galw'r pentref yn Bochotnica Mała (er mwyn gwahaniaethu rhyngddo â Bochotnica-Kolonia, neu Bochotnica Wielka sydd gerllaw), ac mae'n un o drefanau hynaf Pwyl Leiaf. Arferai fod yn fan pwysig o ran marchnata nwyddau, ond mae bellach yn atyniad hanesyddol i ymwelwyr ac oherwydd ei fod yn agos i Ddyffryn Vistula a Pharc Kazimierz. Mae'r orsaf reilffordd agosaf yn Puławy.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Central Statistical Office (GUS) - TERYT (National Register of Territorial Land Apportionment Journal)". 2008-06-01.
- ↑ Edward Piwowarek: Bochotnica w obiektywie - przyczynek do refleksji. Kazimierz: Kazimierski Ośrodek Kultury, 2010
