Black Mirror: Bandersnatch

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae Black Mirror: Bandersnatch yn ffilm rhyngweithiol yn y gyfres ffuglen wyddonol Black Mirror. Cafodd ei ysgrifennu gan greawdwr y cyfres, Charlie Brooker a chafodd ei gyfarwyddo gan David Slade. Rhyddhawyd ar 28 Rhagfyr 2018 fel ffilm sy'n sefyll ar ben ei hun.[1][2]

Yn Bandersnatch, gall y gwyliwr wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar stori y prif gymeriad, y rhaglennydd ifanc Stefan Butler (Fionn Whitehead), sy'n addasu llyfr ffantasi i mewn i gêm cyfrifiadurol yn 1984. Mae cymeriadau eraill yn ymddangos yn Bandersnatch hefyd, sef Mohan Thakur (Asim Chaudhry) a Colin Ritman (Will Poulter), sy'n gweithio i'r cwmni gemau cyfrifiadurol, tad Butler, Peter (Craig Parkinson) a'i therapydd Dr. Haynes (Alice Lowe).[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Vincent, James (27 December 2018). "Watch the trailer for Black Mirror: Bandersnatch, releasing Friday 28th on Netflix". The Verge. Cyrchwyd 27 December 2018.
  2. Thompson, Avery (27 December 2018). "Black Mirror: 5 Things To Know About The New Movie Bandersnatch". Hollywood Life (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 December 2018.
  3. https://www.imdb.com/title/tt9495224/