Birgit Zotz
Birgit Zotz | |
---|---|
Ganwyd | 7 Awst 1979 Waidhofen an der Thaya |
Dinasyddiaeth | Awstria |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | anthropolegydd, ysgrifennwr |
Swydd | prif olygydd |
Priod | Volker Zotz |
Gwefan | http://www.birgit-zotz.at |
Awdur o Awstria yw Birgit Zotz (ganwyd 7 Awst 1979) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel anthropolegydd.
Wedi iddi adael yr ysgol mynychodd Brifysgol Fienna a Phrifysgol Johannes Kepler.
Magwraeth a choleg
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yn Waidhofen der Thaya, Awstria Isaf ac fe'i magwyd yn y Waldviertel, yn yr un rhanbarth, ac yna yn Fienna. O 1993–1997, mynychodd y Franz Schubert Konservatorium yn Fienna, lle bu'n astudio'r sacsoffon. Cafodd ei gradd meistr mewn astudiaethau twristiaeth ym Mhrifysgol Johannes Kepler, Linz yn 2008 ac yn ddiweddarach cafodd radd meistr mewn moeseg o Brifysgol Vienna dan oruchwyliaeth Manfred Kremser. Mae hi'n briod â Volker Zotz, athronydd nodedig o Awstria, ac awdur toreithiog yn yr Almaeneg.[1][2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cyhoeddodd Birgit Zotz lyfrau, traethodau ac erthyglau am ddiwylliant Bwdhaidd, cyfriniaeth ac adeiladu delweddau mewn twristiaeth. Mae hi'n ddarlithydd yng Ngholeg Rhyngwladol Twristiaeth a Rheolaeth yn Bad Vöslau. Ers 2005 bu'n Llywydd Komyoji, canolfan astudio a deialog Bwdhaidd yn Awstria. Mae'n ymchwilydd ar athroniaeth a bywyd Lama Anagarika Govinda; ysgrifennodd ei fywgraffiad."Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Ebrill 2012. Cyrchwyd 2011-10-27. Unknown parameter |deadurl=
ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link) (adalwyd Hydref 2011)</ref>[3]
Llyfrau
[golygu | golygu cod]- Das Image des Waldviertels als Urlaubsregion. 2006 [4]
- Das Image Tibets als Reiseziel im Spiegel deutschsprachiger Medien. Linz: Kepler University 2008 [5] Archifwyd 2012-04-25 yn y Peiriant Wayback
- Das Waldviertel – Zwischen Mystik und Klarheit. Das Image einer Region als Reiseziel. Berlin: Köster 2010, ISBN 978-3-89574-734-2
- Destination Tibet. Touristisches Image zwischen Politik und Klischee. Hamburg: Kovac 2010, ISBN 978-3-8300-4948-7
- Zur europäischen Wahrnehmung von Besessenheitsphänomenen und Orakelwesen in Tibet Prifysgol Fienna 2010 [6].
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lexikon des Waldviertels [1] Archifwyd 2011-12-08 yn y Peiriant Wayback (adalwyd 21 Hydref 2011)
- ↑ Lebenslauf von Birgit Zotz [2] (adalwyd 21 Hydref 2011)
- ↑ Birgit Zotz, Tibetische Mystik, – nach Lama Anagarika Govinda [3] Archifwyd 2019-04-08 yn y Peiriant Wayback (adalwyd Hydref 2011)