Bill Hoole
Bill Hoole | |
---|---|
Ganwyd | 1894 ![]() |
Bu farw | 1979 ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Galwedigaeth | gyrrwr trên ![]() |
Roedd Bill Hoole yn yrrwr trên. Ganwyd ar 27ain Gorffennaf 1898 yn Lerpwl. Aeth o i Ysgol Diwydiannol Kirkdale hyd at 13 oed, a dechreuodd waith gyda Rheilffordd y Midland. Gweithiodd dros Bwyllgor Llinellau Swydd Gaer, yn glanhau locomotifau, cyn ymuno â’r Magnelaeth Faes Frenhinol ym 1914. Daeth o’n wrrwr trên yn nepo Neasden cyn symud i ddepo King’s Cross ym 1927. Fel arfer gyrrodd o Locomotif Dosbarth A4 60007 ‘Syr Nigel Gresley’ a chyrhaeddodd 112 milltir yr awr ym 1959, y record Prydeinig ers yr Ail Ryfel Byd. Mae recordiad o’r siwrnai ar gael ar label Transacord, ac mae llyfr am ei fywyd, ysgrifennwyd gan Peter Semmens[1]. Ar ôl ymddeol, symudodd i ogledd Cymru a dechreuodd ail yrfa fel gyrrwr trên gyda’r Rheilffordd Ffestiniog ar 27ain Gorffennaf 1959, yn gyrru Prince.[2]
Bu farw ar 7fed Mehefin 1979 a chladdwyd ym Mynwent Minffordd.