Bert Thomas

Oddi ar Wicipedia
Bert Thomas
GanwydHerbert Samuel Thomas Edit this on Wikidata
13 Hydref 1883 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Bu farw6 Medi 1966 Edit this on Wikidata
Bayswater, Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcartwnydd, darlunydd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1909 Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Thomas' cartoon for the Ministry of Information during the Second World War

Roedd Herbert Samuel "Bert" Thomas MBE (13 Hydref 18836 Medi 1966) yn gartwnydd gwleidyddol oedd yn cyfrannu at gylchgrawn Punch a chreu posteri propaganda Prydeinig adnabyddus yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ymunodd Thomas â Punch ym 1905 a chyfrannodd tan 1935. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yn yr Artists Rifles.

Dechreuodd cartwnau gwleidyddol Thomas gael eu cynnwys mewn arddangosfeydd oriel fel caricatures artistig cyn gynhared â 1913, mewn arddangosfa ar y Strand gan y Society of Humorous Art ac yn 1916, ei gartŵn yn erbyn y Clyde strikers[1] gyda'r Kaiser yn dweud "pass friend" i streiciwr yn ymddangos mewn arddangosfa o gartwnau rhyfel yn y Graves Galleries ar Pall Mall.[2]

Yn 1918 daeth yn adnabyddus yn genedlaethol am ei gartwn "Arf a mo, Kaiser", a dynnwyd mewn deg munud ar gyfer ymgyrch Smokes for Tommy Dispatch Weekly. Cododd y cartŵn bron i chwarter miliwn o bunnoedd tuag at "comforts" (tybaco a sigaréts) ar gyfer milwyr rheng flaen a chafodd y ddelwedd ei ail-dynnu a'i ddefnyddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd gyda'r pennawd "Arf a mo, 'itler".[3] Gwnaeth yr Almaenwyr wahardd y cartŵn "Arf a mo, 'itler" ac i sicrhau nad oedd carcharorion Prydeinig yn colli eu parseli, creodd amrywiad gyda'r pennawd "Are we downhearted?"

Derbyniodd yr MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd 1918.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Bu farw Thomas yn ei gartref yn 33 Inverness Terrace, Bayswater, Llundain, ar 6 Medi 1966, ar ol dioddef strôc. Fe'i claddwyd ym Mynwent Kensal Green, Llundain.

Y cerflunydd Ivor Thomas (1873-1913) oedd ei frawd.

Roedd ei fab Peter hefyd yn creu cartwnau ar gyfer Punch.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Thomas, Bert (1936). Cartoons and Character Drawing. OCLC 503806609.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Better Labour Outlook. The Clyde Strikers Returning, Causes Of Discontent". The Times]. 4 March 1915. t. 10.
  2. "Humour In Art. The Value Of The Grotesque". The Times]. 4 December 1913. t. 11.
  3. J. Bourne (2001), Who's Who in World War One, Taylor & Francis, p. 283, ISBN 9780415141802