Berfa

Oddi ar Wicipedia
Berfa
Mathhuman-powered land vehicle, material-handling equipment, cart, outdoors, garden and lawn item Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Berfa yn llawn tywod.

Cert fechan gydag olwyn ar un ochr a choesau a breichiau ar yr ochr arall yw berfa neu wilber. Defnyddir i godi a chludo llwythi, gan amlaf yn yr ardd neu ar safle adeiladu. Dodir y llwyth ynddi a chaiff y breichiau eu codi, gan dynnu'r coesau oddi ar y ddaear, i wthio'r ferfa ar ei ffordd. Pan cyrhaeddir y man dadlwytho, gellir symud y llwyth ymaith gan law neu drwy godi'r ferfa ar ei holwyn a thaflu'r llwyth allan.

Dyfeisiwyd y ferfa yn Tsieina, tua'r 1g CC. Mae'n bosib i'r ddyfais gyrraedd Ewrop trwy fasnachwyr Arabaidd, neu i'r Ewropeaid ei ddyfeisio hefyd, rhywbryd ar ôl y Tsieineaid.[1]

Benthycwyd yr enw berfa o'r Saesneg Canol barwe neu berwe, sef trol neu gert ddwylo.[2] Benthycwyd whilber neu wilber o'r enw Saesneg modern, wheelbarrow.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Wheelbarrow", How Products Are Made (Gale, 1996). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 28 Mawrth 2018.
  2.  berfa. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Mawrth 2018.
  3.  whilber. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Mawrth 2018.