Bechgyn yn chwarae milwyr
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | paentiad ![]() |
---|---|
Crëwr | Francisco Goya ![]() |
Deunydd | paent olew, cynfas ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1778, 1779 ![]() |
Genre | celf genre ![]() |
Lleoliad | Amgueddfa'r Prado ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus ![]() |
![]() |
Tapestri a grewyd gan Francisco de Goya yw Bechgyn yn chwarae milwyr, a gafodd ei greu ar gyfer un o ystafelloedd tywysogion Asturias ym mhalas Pardo.
Ar hyn o bryd mae'n cael ei arddangos yn y Museo del Prado. Gwarchodir sgets cynnar o'r darlun yng nghasgliad Yandura yn Sevilla.
Dadansoddiad[golygu | golygu cod]
Mae dau fachgen yn sefyll gyda gynnau yn eu dwylo, wrth i un bachgen chwarae drwm tra bod un arall yn gafael cloch. Mae perspectif isel y darlun yn helpu i leoli'r cymeriadau uwchben set o risiau.

Mae'r cyfansoddiad yn cyfleu elfennau rhyfelgar, doniol a phlentynaidd. Gall yr edrychwr edmygu'r milwr bach bywiog ym mlaendir y llun, sy'n cynrychioli llwyddiant mawr yn yrfa celfyddydol yr artist. Mae Goya yn aml yn cynrychioli plentyndod yn ei holl ffurfiau cymdeithasol, gan gynnwys plant hoffus, urddasol ac eraill.
Mae'n bosib y byddai'r llun wedi hongian uwchben drws, ac yn delio a phynciau plentynnaidd fel yn Niños del carretón, Muchachos cogiendo fruta neu Niños inflando una vejiga. Mae ganddo amrywiad cromatic sy'n debyg i'r hyn y gellir ei weld yn El cacharrero, sydd wedi'i leoli ar yr un wal.
Mae lliwiau melyn a glas y gwaith yn cyfleu argraff llon. O edrych ar y gwaith brws a goleuo, gellir gweld y darlun fel rhagflaenydd argraffiadaeth, fel peintiadau eraill Goya.
Achosodd y gwaith broblemau i'r clustogwyr, a bu'n rhaid iddynt addasu'r cyfansoddiad er mwyn gweddu a phrif asthetig y cyfnod.