Beata Szydło

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Beata Szydło
Delwedd:Beata Szydło (2016 cropped).jpg
Prif Weinidog Gwlad Pwyl
Deiliad
Cychwyn y swydd
16 Tachwedd 2015
Arlywydd Andrzej Duda
Deputy Piotr Gliński
Mateusz Morawiecki
Jarosław Gowin
Rhagflaenwyd gan Ewa Kopacz
Personal details
Ganwyd Beata Maria Kusińska
(1963-04-15) 15 Ebrill 1963 (55 oed)
Oświęcim, Gwlad Pwyl
Plaid wleidyddol Cyfraith a Chyfiawnder (Prawo i Sprawiedliwość)
Priod Edward Szydło
Plant 2
Alma mater Jagiellonian University
Gwefan Gwefan swyddogol

Gwleidydd Pwylaidd a Phrif Weinidog Gwlad Pwyl ers 16 Tachwedd 2015 yw Beata Maria Szydło (ganwyd 15 Ebrill 1963).

Ganwyd Beata Maria Kusinska yn Oświęcim, 50 kilometr (31 mi) i'r gorllewin o Kraków, yn ferch i löwr, a chafodd ei magu yn Brzeszcze gerllaw. Mynychodd Brifysgol Jagiełło yng Nghracof, ac yno y cyfarfu â'i gŵr Edward Szydło. Astudiodd am ddoethuriaeth o 1989 i 1995, a gweithiodd yn Ysgol Economeg Warsaw, Prifysgol Economeg Kraków, ac yng nghanolfannau diwylliannol Libiąż a Brzeszcze.[1][2]

Ym 1998, cafodd ei hethol yn faer Brzeszcze. Yn 2005, ymddiswyddodd yn faer ac ymunodd â'r blaid Cyfraith a Chyfiawnder (Prawo i Sprawiedliwość; PiS) a chafodd ei hethol i'r Sejm, a'i hailethol yn 2007 a 2011. Cafodd ei hethol yn is-lywydd y blaid yn 2010, ac yn 2015 rheolodd ymgyrch arlywyddol lwyddiannus Andrzej Duda. Cafodd ei dewis yn ymgeisydd PiS am brif weinidog ar gyfer etholiad 2015. Enillodd PiS fwyafrif o seddi'r Sejm, a daeth Szydło yn bennaeth ar lywodraeth unblaid gyntaf y wlad ers cwymp y drefn gomiwnyddol ym 1989.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]