Barbara Kruger

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Barbara Kruger
Barbara Kruger yn ACCA, Melbourne
Ganwyd (1945-01-26) 26 Ionawr 1945 (74 oed)
Newark, New Jersey, U.S.
Cenedl Americanaidd
Addysg Syracuse University
Parsons School of Design, Efrog Newydd
Enwog am Celf weledol
Gweithiau nodedig I shop therefore I am (1987) a Your body is a battleground (1985)

Mae Barbara Kruger (ganed 26 Ionawr 1945) yn arlunydd cysyniadol a gludweithiol Americanaidd.[1] Mae'r mwyafrif o'i gwaith yn cynnwys lluniau du a gwyn gyda chapsiynau datganiadol mewn testun gwyn ar goch Futura neu Helvetica. Yn aml, mae'r ymadroddion ar ei gwaith yn cynnwys rhagenwau fel "chi", "eich", "fi" a "ni", yn cyfeirio at y cystrawennau diwylliannol o rym, hunaniaeth, a rhywioldeb.

Yn 2018 roedd Kruger yn byw ac yn gweithio yn Efrog Newydd a Los Angeles.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]