Banbury

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Banbri)
Banbury
Mathplwyf sifil, tref farchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Cherwell
Poblogaeth46,853 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iErmont, Hennef (Sieg) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Rydychen
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd21.04 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Cherwell Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaHanwell, Bourton, Adderbury, Bodicote, Bloxham, Broughton, North Newington, Drayton, Rhydychen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.0614°N 1.3392°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04012640, E04008095 Edit this on Wikidata
Cod OSSP4540 Edit this on Wikidata
Cod postOX16 Edit this on Wikidata
Map

Tref a phlwyf sifil yn Swydd Rydychen, De-ddwyrain Lloegr, yw Banbury[1] (Cymraeg: Banbri neu Bambri). Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Cherwell. Saif ar y ffin rhwng Swydd Warwick a Swydd Northampton. Mae gorsaf reilffordd y brif lein yno, hanner fordd rhwng Birmingham a Paddington. Mae'n agos i'r M40.

Mae Caerdydd 142.2 km i ffwrdd o Banbury ac mae Llundain yn 104.2 km. Y ddinas agosaf ydy Rhydychen sy'n 34.5 km i ffwrdd.

Mae hen gerdd i blant am farchogaeth ceffyl i Banbury. Mae cerflun yng nghanol y dref o'r fenyw yn y gerdd.

Brwydr Edgecote Moor[golygu | golygu cod]

Ymladdwyd un o frwydrau Rhyfel y Rhosynnau sef Brwydr Edgecote Moor neu "Frwydr Banbri" 6 milltir (9.7 km) i'r gogledd-ddwyrain o'r pentref. Ymladdwyd y frwydr ar 26 Gorffennaf 1469 rhwng Richard Neville, 16ed Iarll Warwick ac Edward IV; gyda Richard yn cipio Coron Lloegr.

Roedd maes y gad 6 milltir (9.7 km) i'r gogledd-ddwyrain o Banbury, yng ngogledd Swydd Rydychen; saif heddiw ym mhlwyf Chipping Warden ac Edgcote, ar y ffin rhwng Swydd Warwick a Swydd Northampton. Yr adeg honno, fodd bynnag, roedd y rhyd ar afon Cherwell, sef canolbwynt y frwydr, yn Swydd Northampton.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 19 Mai 2020


Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Rydychen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.