Bains-les-Bains
![]() | |
![]() | |
Math | cymuned, delegated commune ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,176 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | Bonndorf im Schwarzwald ![]() |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 25.37 km² ![]() |
Uwch y môr | 325 metr, 256 metr, 417 metr, 357 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Trémonzey, Les Voivres, La Chapelle-aux-Bois, Le Clerjus, Fontenoy-le-Château, Hautmougey, Fontenoy-le-Château ![]() |
Cyfesurynnau | 48.0025°N 6.2636°E ![]() |
Cod post | 88240 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Bains-les-Bains ![]() |
![]() | |
Mae Bains-les-Bains yn gymuned Département Vosges yn Rhanbarth Grand Est, Ffrainc. Ar 1 Ionawr 2017 fe’i hunwyd â chymunedau Harsault a Hautmougey i ffurfio cymuned newydd La Vôge-les-Bains.
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Saif Bains-les-Bains yng nghanol llwyfandir tywodfaen y Vôge 29 km i'r de o Épinal, mae’n gorwedd yng nghwm yr afon Bagnerot, un o lednentydd yr afon Côney sydd yn ei dro yn llednant o’r afon Saône.
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]Safleoedd a Henebion
[golygu | golygu cod]Ffynhonnau Mwynol
[golygu | golygu cod]Ystyr enw’r gymuned yw “Y Baddonau”, ac mae wedi ei enwi ar ôl y ffynhonnau mwynol poeth sydd yno. Roedd y ffynhonnau eisoes yn hysbys yn y cyfnod Rhufeinig. Pan gafodd y basn y brif darddell ei drwsio ym 1752, cafwyd hyd i fwy na 600 o ddarnau arian Groegaidd a Rhufeinig eu darganfod o dan golofn.
-
Carreg gerfiedig Rufeinig yn perthyn i’r baddonau
-
Sba thermol -
Pwll ymlacio -
Jet gwasgedd uchel yn y pwll -
Dŵr thermol -
Y baddon Rhufeinig. -
Tu fewn i’r baddon Rhufeinig
Parc y sba
[golygu | golygu cod]Mae'r parc sba, neu'r Parc Mawr wedi ei leoli i'r de-ddwyrain o'r ddinas, yn agos at y baddonau. Mae'n cwmpasu deg hectar wedi ei hamgylchynu gan goedwig. Mae’r parc yn cynnwys cofeb i Jules Liégeois, athro'r Gyfraith ym Mhrifysgol Nancy, a fu farw mewn damwain car wrth fynedfa'r parc 14 Awst 1908.
-
Grand parc thermal.
-
Cofeb Jules Liégeois
-
La Potinière.
-
Cwrs golff bach
-
Promenade du Parapluie.
Cysylltiadau Rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Mae Bains-les-Bains wedi'i gefeillio â: