Augustine Susanne Brohan
Gwedd
| Augustine Susanne Brohan | |
|---|---|
| Ganwyd | Suzanne Augustine Brohan 29 Ionawr 1807 Vernon |
| Bu farw | 14 Awst 1887 Fontenay-aux-Roses |
| Dinasyddiaeth | Ffrainc |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor llwyfan |
| Plant | Augustine Brohan, Ethelie Madeleine Brohan |
Actores o Ffrainc oedd Augustine Susanne Brohan (22 Ionawr 1807 – 16 Awst 1887).
Ganwyd ym Mharis a daeth yn aelod o'r Conservatoire tra'n unarddeg oed, a cymerodd yr ail wobr am gomedi ym 1820, a'r wobr cyntaf ym 1821. Gwasanaethodd ei phrentisiaeth yn y taleithiau gan wneud ei ymddangosiad cyntaf ym Mharis yn yr Odéon ym 1832, gan chwarae rhan Dorine yn Tartuffe.
Wedi ei llwyddiant cafodd ei galw i'r Comédie-Française, gan wneud ei début ar 15 Chwefror 1834, fel Madelon yn Les Précieuses ridicules, a Suzanne yn Le Mariage de Figaro. Ymddeolodd ym 1842.
Daeth ei merched, Joséphine-Félicité-Augustine a Ethelie Madeleine hefyd yn actorion.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Encyclopædia Britannica, 11eg Rhifyn