Atonement (ffilm)
![]() Poster y Ffilm | |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Joe Wright |
| Ysgrifennwr | Nofel: Ian McEwan Sgript: Christopher Hampton |
| Serennu | James McAvoy Keira Knightley Saoirse Ronan Romola Garai Vanessa Redgrave |
| Cerddoriaeth | AngeDario Marianelli |
| Sinematograffeg | Seamus McGarvey |
| Golygydd | Paul Tothill |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Universal Pictures |
| Dyddiad rhyddhau | 7 Medi 2007 (DU) |
| Amser rhedeg | 123 munud |
| Gwlad | Deyrnas Unedig Ffrainc |
| Iaith | Saesneg |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Mae Atonement yn ffilm o 2007 sy'n addasiad o nofel Ian McEwan o'r un enw. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Joe Wright ac ysgrifennwyd y sgript gan Christopher Hampton. Cynhyrchwyd y ffilm a ffilmiwyd yn ystod Haf 2006 yn Lloegr a Ffrainc gan Working Title Films. Mae James McAvoy a Keira Knightley yn actio yn y ffilm. Dosbarthwyd y ffilm gan Universal Studios a rhyddhawyd y ffilm yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon ar y 7fed o Fedi, 2007. Fe'i rhyddhawyd yng Ngogledd America ar y 7fed o Ragfyr, 2007.
Agorodd Atonement Ŵyl Ffilm Fenis gan wneud Wright, a oedd yn 35 oed ar y pryd, y cyfarwyddwr ieuengaf erioed i agore yr ŵyl. Enillodd y ffilm Oscar am y Sgôr Wreiddiol Orau yn 80fed Gwobrau'r Academi a chafodd ei enwebu am chwech Oscar arall, gan gynnwys y Ffilm Orau, Sgript wedi'i addasu orau a'r Actores Gefnogol Orau (Saoirse Ronan).
