Asima Chatterjee
Asima Chatterjee | |
---|---|
Ganwyd | 23 Medi 1917 Kolkata |
Bu farw | 22 Tachwedd 2006 Kolkata |
Dinasyddiaeth | y Raj Prydeinig, India |
Addysg | Doctor of Sciences |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cemegydd, botanegydd, academydd |
Swydd | aelod o'r Rajya Sabha |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr Gwyddoniaeth a Thechnoleg Shanti Swarup Bhatnagar, Prifysgol Gwyddoniaeth a Pheirianneg Padmabhushan |
Cemegydd o India oedd yn arbenigo ar blanhigion meddyginiaethol oedd Asima Chatterjee (23 Medi 1917 – 22 Tachwedd 2006).[1]
Ganwyd yn Calcutta, yn ferch i'r meddyg a'r botanegydd Indra Narayan Mukherjee. Enillodd ei gradd meistr ar bwnc cemeg organig o Brifysgol Calcutta ym 1938, a'i doethuriaeth ym 1944. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill doethuriaeth mewn gwyddoniaeth o unrhyw brifysgol yn India. Teithiodd i gyd-weithio ag academyddion eraill ym Mhrifysgol Wisconsin (1947), Athrofa Dechnegol Califfornia (1948–49), a Phrifysgol Zürich (1949–50).[2]
Dychwelodd i Brifysgol Calcutta, ac ymchwiliodd i gemeg planhigion meddyginiaethol, yn enwedig alcaloidau a chwmarinau. Cafodd ei phenodi yn ddarllenydd yn yr adran gemeg bur ym 1954, ac ym 1962 hi oedd y fenyw gyntaf i'w phenodi i gadair wyddonol prifysgol yn India a hynny yn Athro Cemeg Khaira.[2]
Llwyddodd i ddatblygu'r cyffur gwrth-epileptig, Ayush-56, o Marsilia minuta, a'r cyffur gwrth-malaria o Alstonia scholaris, Swrrtia chirata, Picrorphiza kurroa, a Ceasalpinna crista. Yn ystod ei gyrfa, cyhoeddodd tua 400 o erthyglau mewn cyfnodolion academaidd.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Noted scientist Asima Chatterjee dies, Oneindia (22 Tachwedd 2006). Adalwyd ar 23 Medi 2017.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) S C Pakrashi, "Asima Chatterjee" yn Lilavati's Daughters (2008). Adalwyd ar 23 Medi 2017.