Arwyn Herald - Hunangofiant Ffotograffydd Papur Newydd

Oddi ar Wicipedia
Arwyn Herald - Hunangofiant Ffotograffydd Papur Newydd
AwdurArwyn Roberts
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi28/09/2016
ArgaeleddAr gael
ISBN9781845275709

Hunangofiant gan Arwyn "Herald" Roberts yw Arwyn Herald: Hunangofiant Ffotograffydd Papur Newydd a gyhoeddwyd yn 2016 gan Wasg Carreg Gwalch. Man cyhoeddi: Llanrwst, Cymru.[1]

Magwyd Arwyn Roberts yn Rhosgadfan, lle cychwynodd ar ei yrfa gyda Phapurau'r Herald 40 yn ôl, fel cysodydd. Yn fuan wedyn, symudodd i fyd ffotograffiaeth, a dod yn wyneb cyfarwydd ledled Cymru yn ogystal â'i ardal enedigol.

Brodor o Rosgadfan ydy Arwyn Roberts, ac mae'n wyneb cyfarwydd yn eisteddfodau a gwyliau Cymru gyda'i gamera. Cafodd ei urddo i'r Orsedd er Anrhydedd yn 2005 dan yr enw barddol Arwyn Herald. Cyhoeddodd gyfrol am gau ffatri Friction Dynamics yng Nghaernarfon ar y cyd ag Ian Edwards a Trystan Pritchard yn 2006, Drwy Lygad y Camera yn 2010 a Pobol Arwyn Herald yn 2012.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.