Arwyn Herald
| Arwyn Herald | |
|---|---|
| Ganwyd | 1959 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | ffotograffydd |
| Blodeuodd | 2005 |
Ffotograffydd o Gaernarfon a gohebydd i'r papur newydd, Yr Herald ydy Arwyn "Herald" Roberts (ganwyd 1959).
Mae Arwyn Roberts yn gweithio fel ffotograffydd proffesiynnol ar hyd a lled Cymru yn ogystal â bod yn ohebydd i'r Herald. Cafodd ei Urddo i Orsedd y Beirdd yn 2005 dan yr enw 'Arwyn Herald'.
Cyhoeddodd, gydag Ian Edwards a Thrystan Prithard - gyfrol am gau ffatri Friction Dynamics yng Nghaernarfon a hynny yn 2005. Ar ôl 35 mlynedd o weithio fel ffotograffydd i'r Herald, penderfynodd Arwyn gyhoeddi Drwy Lygad y Camera, sef llyfr sydd yn cynnwys ei hoff luniau. Cafodd yr elw a wnaethpwyd o ganlyniad i werthu'r copiau ei roi tuag at Ambiwlans Awyr Cymru ac Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd.[1] Yn Nhachwedd 2012 cyhoeddodd Pobol Arwyn Herald.[2]