Arthur's Stone
Gwedd
![]() | |
Math | cromlech, siambr gladdu, safle archaeolegol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dorstone ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.0822°N 2.99541°W ![]() |
Cod OS | SO3188743118 ![]() |
Rheolir gan | English Heritage ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | English Heritage ![]() |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Heneb Neolithig yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr yw Arthur's Stone (sef "Carreg Arthur" yn Gymraeg). Fe'i lleolir bron i 1000 troedfedd uwch lefel y môr ar ben bryn rhwng Bredwardine a Dorstone.

Math o siambr gladdu o gyfnod Oes Newydd y Cerrig a elwir yn siambr gladdu gellog gan yr archaeolegwyr ydyw. Credir iddi gael ei chodi rhwng tua 3,700CC a 2,700CC. Mae'r pridd a'i gorchuddiai wedi mynd a dim ond y meini sy'n aros erbyn hyn, fel cromlech.
Mae'n un o sawl heneb yng ngwledydd Prydain a enwir ar ôl y Brenin Arthur (bl. 5g), ond does dim cysylltiad hanesyddol rhwng yr arwr hwnnw a'r heneb.