Ardal Stratford-on-Avon
| Math | ardal an-fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Swydd Warwick |
| Prifddinas | Stratford-upon-Avon |
| Poblogaeth | 127,580 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Warwick (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 977.8694 km² |
| Cyfesurynnau | 52.1902°N 1.7087°W |
| Cod SYG | E07000221 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Stratford-on-Avon District Council |
![]() | |
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Warwick, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ardal Stratford-on-Avon (Saesneg: Stratford-on-Avon District).
Enwir yr ardal yn "Stratford-on-Avon" i'w gwahaniaethu oddi wrth ei phrif dref Stratford-upon-Avon.
Mae gan yr ardal arwynebedd o 978 km², gyda 130,098 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio â dwy ardal arall Swydd Warwick, sef Ardal Warwick a Bwrdeistref Rugby i'r gogledd, yn ogystal â siroedd Swydd Northampton i'r dwyrain, Swydd Rydychen i'r de-ddwyrain, Swydd Gaerloyw i'r de-orllewin, Swydd Gaerwrangon i'r gorllewin, a Gorllewin Canolbarth Lloegr i'r gogledd.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Rhennir yr ardal yn 113 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Stratford-upon-Avon. Mae aneddiadau eraill ynddi yn cynnwys trefi Alcester, Henley-in-Arden, Shipston-on-Stour a Southam.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 11 Medi 2020
