Ardal De Swydd Stafford
Gwedd
| Math | ardal an-fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Swydd Stafford |
| Prifddinas | Codsall |
| Poblogaeth | 111,527 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Stafford |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 407.3223 km² |
| Cyfesurynnau | 52.6258°N 2.1918°W |
| Cod SYG | E07000196 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of South Staffordshire Council |
![]() | |
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Stafford, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ardal De Swydd Stafford (Saesneg: South Staffordshire District).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 407 km², gyda 112,126 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio â dwy ardal arall Swydd Stafford, sef Bwrdeistref Stafford, ac Ardal Cannock Chase, yn ogystal â siroedd Swydd Amwythig, Swydd Gaerwrangon a Gorllewin Canolbarth Lloegr i'r gorllewin, de a dwyrain.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Cyfunodd yr hen awdurdodau lleol Ardal Wledig Cannock yn y gogledd ac Ardal Wledig Seisdon yn y de.
Rhennir yr ardal yn 29 o blwyfi sifil. Mae ei phencadlys yn nhref Codsall. Mae'n cynnwys tref Penkridge hefyd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 20 Mawrth 2020
