Matilda (llyfr)

Oddi ar Wicipedia
Matilda
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurRoald Dahl Edit this on Wikidata
CyhoeddwrPenguin Books Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1988 Edit this on Wikidata
Genrenofel i blant Edit this on Wikidata
Olynwyd ganEsio Trot Edit this on Wikidata
CymeriadauMatilda Wormwood, Agatha Trunchbull, Jenny Honey Edit this on Wikidata

Llyfr gan yr awdur Roald Dahl yw Matilda.[1]

Fe'i gyhoeddwyd ym 1988 gan Jonathan Cape yn Llundain gyda 232 o dudalennau a lluniau gan Quentin Blake Fe'i haddaswyd fel darlleniad sain gan yr actores Kate Winslet, ffilm nodwedd ym 1996 a gyfarwyddwyd gan Danny DeVito, rhaglen ddwy ran ar BBC Radio 4 yn serennu Lauren Mote fel Matilda, Emerald O’Hanrahan fel Miss Honey, Nichola McAuliffe fel Miss Trunchbull a’i naratif gan Lenny Henry a sioe gerdd yn 2010.

Yn 2012 roedd Matilda yn safle 30 ymhlith nofelau plant amser llawn mewn arolwg a gyhoeddwyd gan School Library Journal, cyfrol misol gyda chynulleidfa yn yr UDA yn bennaf. Hwn oedd y cyntaf o bedwar llyfr gan Dahl ymhlith y 100 Uchaf, yn fwy nag unrhyw awdur arall. Gwnaeth cylchgrawn Time gynnwys Matilda yn ei rhestr o'r 100 Llyfr Oedolion Ifanc Gorau erioed.

Mae gwerthiannau ledled y byd wedi cyrraedd 17 miliwn, ers 2016 mae gwerthiannau wedi cynyddu i'r graddau ei fod yn fwy na unrhyw un o lyfrau eraill Dahl.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dahl, Roald. Matilda (arg. The chocolate cake edition). New York. ISBN 978-1-9848-3620-5. OCLC 1096496739.CS1 maint: extra text (link)