Lough Neagh

Oddi ar Wicipedia
Lough Neagh
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGogledd Iwerddon Edit this on Wikidata
GwladBaner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
Arwynebedd392 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr16 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.6183°N 6.3953°W Edit this on Wikidata
Dalgylch4,550 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd30 cilometr Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethEarl of Shaftesbury Edit this on Wikidata

Llyn yng Ngogledd Iwerddon yw Lough Neagh (Gwyddeleg: Loch nEathach). Ef yw'r llyn mwyaf ar ynys Iwerddon a llyn mwyaf y Deyrnas Unedig; mae ganddo arwynebedd o 392 cilometr sgwar (151 milltir sgwar). Mae'n 30 km o hyd a 21 km o led yn y man lletaf. Yn ei fan dyfnaf, mae ei ddyfnder yn 25 medr, ond dim ond 9 medr yw ei ddyfnder ar gyfartaledd.

Saif tua 20 milltir i'r gorllewin o ddinas Belffast. Mae ei ddalgylch yn cynnwys tua 43% o arwynebedd Gogledd Iwerddon, ac mae ychydig o diriogaeth Gweriniaeth Iwerddon hefyd o fewn ei ddalgylch. Mae Afon Bann yn llifo trwy'r llyn.

Mae gan bump allan o chwe sir Gogledd Iwerddon ran o lannau'r llyn o fewn eu tiriogaeth: Antrim, Armagh, Down, Derry a Tyrone. Ymhlith y trefi a phentrefi ar ei lan mae Antrim, Crumlin, Randalstown, Toomebridge, Ballyronan, Ballinderry, Moortown, Ardboe, Maghery, Lurgan a Magherafelt.

Lough Neagh o loeren, delwedd NASA