Ci Mawr Denmarc

Oddi ar Wicipedia
Ci Mawr Denmarc
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Mathci Edit this on Wikidata
Gwladyr Almaen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ci Mawr Denmarc gyda chôt frith

Ci gwaith mawr iawn sy'n tarddu o'r Almaen yw Ci Mawr Denmarc[1] neu'r Daniad Mawr.[1] Mae union darddiad y brîd yn ansicr, a cheir darluniadau o gŵn mawrion tebyg mewn celfyddyd yr Henfyd. Gellir ei ystyried yn un o'r molosgwn, grŵp o fridiau mawr a chydnerth. Datblygwyd y Daniad Mawr ar ei ffurf fodern tua 400 mlynedd yn ôl yn yr Almaen i hela'r baedd gwyllt. Mae'n debyg i'r baeddgi hwn ymddangos drwy groesfridio'r Gafaelgi Seisnig â'r Bleiddgi Gwyddelig. Nid oes ganddo berthynas bendant â gwlad Denmarc: daw ei enw drwy'r Saesneg, Great Dane, o'r Ffrangeg, grand danois. Deutsche Dogge yw enw Almaeneg y brîd, a bellach fe'i elwir yn dogue allemand gan y Ffrancod.

Saif y Daniad gwrywol mwy na 76 cm a'r ast mwy na 71 cm, ac mae'n pwyso tua 54 i 68 kg. Mae ganddo ben mawr, cul gyda gên sgwâr a chorff llydan ei frest gyda choesau hirion cryfion. Côt lefn, fer sydd ganddo, o liw du, melynllwyd, brith (gwyn gyda marciau duon), rhesog, llwydlas, neu fantell (gwyn gyda chlogyn ddu). Mae gan y Daniad o liw melynllwyd neu gôt resog fwgwd du ar ei wyneb.[2]

Brîd cyflym ac effro yw Ci Mawr Denmarc. Mae ganddo dymer addfwyn a chyfeillgar, a hefyd yn ddewr ac yn ddibynadwy. Cedwir heddiw fel ci anwes ffyddlon.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [Dane: Great Dane].
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Great Dane. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Medi 2016.