Alma Rogge

Oddi ar Wicipedia
Alma Rogge
Ganwyd24 Gorffennaf 1894 Edit this on Wikidata
Rodenkirchen Edit this on Wikidata
Bu farw7 Chwefror 1969 Edit this on Wikidata
Bremen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Awdures o'r Almaen oedd Alma Rogge (24 Gorffennaf 1894 - 7 Chwefror 1969). Fe'i ganed yn Brunswarden, Rodenkirchen a bu farw yn Bremen, sydd hefyd yn yr Almaen.[1][2][3]

Magwraeth a choleg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Alma i saer, Awst Rogge, a'i wraig. Mynychodd yr ysgol bentref cyn symud i'r ysgol gyhoeddus yn Rodenkirchen. Fel myfyriwr, roedd ganddi lyfr nodiadau a phensil bob amser i gymryd nodiadau o ddigwyddiadau arbennig. Pan oedd yn 17 oed, anfonodd ei rhieni hi i ysgol breswyl yn Bad Kreuznach, tref yn nhalaith Rheinland-Pfalz. Yno ysgrifennodd ei cherddi cyntaf a breuddwydiodd am ddod yn fardd. Un o'i chyd-ddisgyblion oedd Hanna Wisser, merch Wilhelm Wisser, athro ysgol uwchradd yn Oldenburg, a adwaenid fel "athro chwedlau tylwyth teg" a gasglodd chwedlau a straeon tylwyth teg yr Iseldiroedd. Anogodd Wilhelm hi i ysgrifennu drama mewn Sacsoneg Isel. Gwnaeth hyn, yn gyfrinachol pan gai gyfle a rhoddodd y teitl On Freiersfüßen (Almaeneg: Up de Freete) i'r ddrama. Parhaodd i ysgrifennu cerddi a thestunau telynegol sydd wedi'u cyhoeddi mewn papurau newydd amrywiol. Perfformiwyd On Freiersfüßen ar lwyfan y pentref yn Rodenkirchen a chafodd gymaint o lwyddiant fel y daeth Richard Ohnsorg yn Hamburg yn ymwybodol ohono.

Awdur a golygydd[golygu | golygu cod]

Yn 1932, symudodd Alma Rogge i Bremen, gan sefydlu ei hun fel awdur llawrydd. Ysgrifennodd ddramâu llwyfan Sacsoneg Isel (Niederdeutsche Sprache) ac Uchel (yr Oberdeutsch) a gyhoeddwyd mewn print, ar y radio a pherfformiodd Theatr Hamburg Ohnsorg y gwaith sawl tro o dan y teitl Twee Kisten Rum (Dwy Gasgen o Rym).

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o 'Eutiner Dichterkreis' (Cymdeithas Beiirdd Eutin).

Dyfyniad[golygu | golygu cod]

Wo ik her kaam,
is dat Land so free un wiet,
wasst dat Gras un bleuht de Klee,
rückt de Luft na Solt un See,
blänkert Water, ruschelt Reith,
jagt de Wulken, Wind de weiht,
wo ik her kaam.

Lled-gyfieithiad:

Yn y fan lle'm ganed
mae'r wlad yn rhydd ac am ddim,
mae'r glaswellt yn tyfu a'r blodau meillion,
mae'r aer yn arogli o halen a môr,
dŵr gloyw'n llifo
yn hela'r cymylau, a'r gwynt yn chwythu
Yn y fan lle'm ganed.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Gwaith dethol[golygu | golygu cod]

  • 1924: De Straf : pläseerlich Spill in eenen Törn. Hamburg: Hermes
  • 1926: De Straf – Regie
  • 1929: Sine: Vertelln in Ollnborger Platt, Hamburg: Quickborn-Verl.
  • 1935: Leute an der Bucht; Erzählungen, Bremen: Schünemann
  • 1936: Dieter und Hille: Eine Liebesgeschichte, Bremen: Schünemann
  • 1936: Hans Böttcher
  • 1936: Wer bietet mehr?
  • 1937: Hinnerk mit 'n Hot
  • 1938: Wangerooge
  • 1939: In der weiten Marsch
  • 1943: An Deich und Strom
  • 1948: Theda Thorade
  • 1949: Der Nagel unter Lenas Fenster
  • 1953: In de Möhl - Regie
  • 1955: De Vergant-Schoster
  • 1955: Dor harr'n Uhl seten
  • 1955: Op de Freete
  • 1956: Twee Kisten Rum
  • 1963: De Straaf
  • 1964: De Vergant-Schoster
  • 1966: Twee Kisten Rum

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 24 Ebrill 2014
  2. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 24 Ebrill 2014 "Alma Rogge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alma Rogge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  3. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 24 Ebrill 2014 "Alma Rogge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alma Rogge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.