Enw deuenwol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn newid: ml:ദ്വിപദ നാമപദ്ധതി |
B [r2.6.4] robot yn ychwanegu: an:Sistema de nomenclatura binominal |
||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
[[af:Binomiale naam]] |
[[af:Binomiale naam]] |
||
[[an:Sistema de nomenclatura binominal]] |
|||
[[ang:Tƿinemniendlic nama]] |
[[ang:Tƿinemniendlic nama]] |
||
[[ar:تسمية ثنائية]] |
[[ar:تسمية ثنائية]] |
Fersiwn yn ôl 18:13, 6 Rhagfyr 2010
Enw deuenwol mewn Bioleg yw'r dull safonol o enwi rhywogaeth. Mae'n cynnwys dau enw: enw'r genws ac enw arbennig i'r rhywogaeth ei hun; er enghraifft Homo sapiens.
Yr arferion ynglŷn â'u defnyddio yw:
- Fel rheol maent yn cael eu hysgrifennu mewn llythrennau italig.
- Defnyddir llythyren fawr ar gyfer enw'r genws a llythyren fach ar gyfer enw'r rhywogaeth (hyd yn oed os yw'r enw hwnnw yn dod o enw person neu le).
- Yn ffurfiol, mae'r enw deuenwol yn cael ei ddilyn gan gyfenw y person a ddisgrifiodd y rhywogaeth gyntaf
- Mewn papur gwyddonol, rhoir yr enw yn llawn y tro cyntaf; wedi hynny gellir talfyrru enw'r genws; er enghraifft Aderyn y To Passer domesticus yn troi'n P. domesticus
Dechreuwyd y system gan Carolus Linnaeus (1707 - 1778), a geisiodd roi enw deuenwol i bob rhywogaeth oedd yn wybyddus iddo. O ganlyniad, enw Linnaeus sydd ynghlwm wrth y nifer fwyaf o enwau deuenwol, ac fe'i talfyrrir i L.
Daw'r enwau o'r Lladin neu o ieithoedd eraill, ond beth bynnag eu tarddiad maent yn cael eu trin fel pe baent yn Lladin o ran gramadeg.