Iaith ddadelfennol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: vi:Ngôn ngữ đơn lập |
RedBot (sgwrs | cyfraniadau) B [r2.6.1] robot yn newid: ru:Изолирующие языки |
||
Llinell 56: | Llinell 56: | ||
[[pl:Język analityczny]] |
[[pl:Język analityczny]] |
||
[[qu:Rakikuq rimay]] |
[[qu:Rakikuq rimay]] |
||
[[ru:Изолирующие языки]] |
|||
[[ru:Изолирующий язык]] |
|||
[[sv:Analytiska språk]] |
[[sv:Analytiska språk]] |
||
[[uk:Аналітичні мови]] |
[[uk:Аналітичні мови]] |
Fersiwn yn ôl 14:02, 29 Tachwedd 2010
Iaith heb ffurfdroadau sy'n cyfleu perthnasau gramadegol drwy ddefnyddio geirynnau neu drwy gystrawen neu ymadrodd mewn perthynas i eiriau eraill yw iaith ddadelfennol neu iaith analytig. Mewn ieithoedd dadeflennol mae'r morffemau yn rhydd, hynny yw, mae pob morffem yn air ar wahân.
Enghreifftiau
Dosberthir ieithoedd fel naill ai dadelfennol neu synthetig. Gwnëir hyn drwy roi mesuraid morffem-y-gair (mpw o'r Saesneg morpheme-per-word) ar iaith. Hynny yw, mae ieithoedd dadelfennol yn dueddol o gael geiriau wedi'u cyfansoddi o un morffem. Mae unrhyw iaith sydd â mpw yn fwy nag 1 yn iaith synthetig. Dangosir morffemau isod:
- Yn y gair Cymraeg merch dim ond un morffem sydd ac felly mae gan y gair gymhareb mpw o 1:1.
- Ond mae gan y gair gwyddoniaethau dri morffem (gwyddon-, iaeth, -au) ac felly mae gan y gair hwn gymhareb mpw o 3:1.
Mae ieithoedd de-orllewin Asia fel Fietnameg, Thaieg a Thseinaeg yn dueddol o fod yn ddadelfennol. Yn Nhseinaeg dim ond un morffem sydd i bob gair ac felly ni ddefnyddir ffurfdroadau i fynegi cyflwr ar enwau neu amser ar ferfau, ond yn hytrach mae hi'n dibynnu ar gyd-destun, safle a geirynnau. Er enghraifft yn y frawddeg ganlynol defnyddir geiryn i ddangos y dyfodol, a dibynnir ar gystrawen i ddangos y berthynas rhwng y goddrych a gwrthrych:
明天 我 的 朋友 會 爲 我 做 一 個 生日 蛋糕 明天 我 的 朋友 会 为 我 做 一 个 生日 蛋糕 míngtīan wǒ de péngyou huì wèi wǒ zuò yí ge shēngri dàn'gāo yfori fi (Geiryn israddol) cyfaill bydd i fi gwneud (erthygl) (dosbarthydd geiriau) penblwydd teisen "Yfori bydd fy nghyfeillion yn gwneud teisen penblwydd imi."
Gellir dweud bod dim morffoleg gan ieithoedd dadelfennol.