Lucius Tarquinius Superbus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: als:Lucius Tarquinius Superbus |
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: fa:لوسیوس تارکوینیوس سوپربوس |
||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
[[en:Lucius Tarquinius Superbus]] |
[[en:Lucius Tarquinius Superbus]] |
||
[[es:Tarquinio el Soberbio]] |
[[es:Tarquinio el Soberbio]] |
||
[[fa:لوسیوس تارکوینیوس سوپربوس]] |
|||
[[fi:Lucius Tarquinius Superbus]] |
[[fi:Lucius Tarquinius Superbus]] |
||
[[fr:Tarquin le Superbe]] |
[[fr:Tarquin le Superbe]] |
Fersiwn yn ôl 15:19, 4 Hydref 2010
Lucius Tarquinius Superbus (teyrnasodd c. 534 CC - 509 CC, bu farw 496 CC) oedd brenin olaf Rhufain yn ôl yr hanes traddodiadol. Ef oedd yr olaf o'r tri brenin Etrwscaidd a deyrnasodd ar Rufain.
Roedd yn fab i bumed brenin Rhufain, Tarquinius Priscus. Wedi marwolaeth ei dad, cymerwyd yr orsedd gan Servius Tullius, a roddodd ei ddwy ferch mewn priodas i Lucius a'i frawd Arruns. Roedd y ferch hynaf, Tullia, yn briod ag Arruns, ond roedd hi'n anfodlon ar ei ddiffyg uchelgais ef, a dechreuodd berthynas a Lucius. Llofruddiasant Arruns a gwraig Lucius, ac yna Servius Tullius, a daeth Lucius yn frenin.
Ystyrid ei deyrnasiad yn ormesol, a daeth ei fab, Sextus, yn fwy amhoblogaidd fyth. Dechreuodd y digwyddiadau a arweiniodd at ddiwedd y frenhiniaeth pan reibiodd Sextus Lucretia, gwraig Collatinus. Dywedodd Lucretia wrth ei gŵr beth oedd wedi digwydd, yna lladdodd ei hun. Ymunodd Collatinus ag eraill, yn arbennig Lucius Junius Brutus, i yrru Lucius a Sextus o Rufain, a sefydlu Gweriniaeth Rhufain.