Servius Tullius
| Servius Tullius | |
|---|---|
| Ganwyd | Mastarna 6 g CC Rhufain |
| Bu farw | 535 CC, 534 CC Rhufain |
| Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | King of Rome |
| Tad | Tullius |
| Mam | Ocrisia |
| Priod | Tarquinia the Elder, Gegania |
| Plant | Tullia Minor, Tullia Major |
Servius Tullius (teyrnasodd c. 578 CC - 534 CC, bu farw 534 CC) oedd chweched brenin Rhufain yn ôl yr hanes traddodiadol.
Roedd yn fab i gaethferch, yn ôl un traddodiad, ond magwyd ef yn llys pumed brenin Rhufain, Tarquinius Priscus, a'i wraig Tanaquil. Pan lofruddiwyd Tarquinius Priscus, llwyddodd Tanaquil i sicrahau fod Servius Tullius yn ei olynu ar yr orsedd.
Rhoddodd Servius Tullius ei ddwy ferch mewn priodas i ddau fab Tarquinius Priscus, Lucius Tarquinius Superbus a'i frawd Arruns. Roedd y ferch hynaf, Tullia, yn briod ag Arruns, ond roedd hi'n anfodlon ar ei ddiffyg uchelgais ef, a dechreuodd berthynas a Lucius. Llofruddiasant Arruns a gwraig Lucius, ac yna llofruddiasant Servius Tullius ei hun i wneud Lucius yn frenin.
Cysylltir Servius Tullius yn draddodiadaol a Mur Servius Tullius, y mur cyntaf o amgylch dinas Rhufain.