Flores Poetarum Britannicorum: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Blodeugerdd]] gynnar o [[llenyddiaeth Gymraeg|farddoniaeth Gymraeg]] yw'r '''''Flores Poetarum Britannicorum'''''. Fe'i cyhoeddwyd yn [[1710]] gan [[Dafydd Lewys]] o [[Llanllawddog|Lanllawddog]]. Cafodd ei argraffu yn yr [[Amwythig]].
[[Blodeugerdd]] gynnar o [[llenyddiaeth Gymraeg|farddoniaeth Gymraeg]] yw'r '''''Flores Poetarum Britannicorum'''''. Fe'i cyhoeddwyd yn [[1710]] gan [[Dafydd Lewys]] o [[Llanllawddog|Lanllawddog]]. Cafodd ei argraffu yn [[Amwythig]].


Teitl llawn y gyfrol yw:
Teitl llawn y gyfrol yw:

Fersiwn yn ôl 22:05, 21 Medi 2010

Blodeugerdd gynnar o farddoniaeth Gymraeg yw'r Flores Poetarum Britannicorum. Fe'i cyhoeddwyd yn 1710 gan Dafydd Lewys o Lanllawddog. Cafodd ei argraffu yn Amwythig.

Teitl llawn y gyfrol yw:

Flores Poetarum Brittanicorum
Sef Blodeuog waith y Prydyddion Bryttannaidd

Llwyddodd y golygydd i gael gafael ar gasgliad o gerddi Cymraeg o waith sawl bardd a wnaeth y Dr. John Davies, Mallwyd yn y ganrif flaenorol. Er nad oes fawr o werth iddi fel blodeugerdd - darnau o waith gan Beirdd yr Uchelwyr ac eraill wedi'u trefnu dan sawl pen ydyw - roedd yn ymgais clodwiw ac arloesol am ei gyfnod.

Ar ddiwedd y casgliad o gerddi ychwanegwyd testun o draethawd barddol William Midleton (fl. 1550-1600), sef Bardhoniaeth neu brydydhiaeth (1593), sy'n disgrifio rheolau Cerdd Dafod.

Cyfeiriadau

  • Thomas Parry, Hanes llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944)
  • Gwilym Lleyn, Llyfryddiaeth y Cymry (Llanidloes, 1869)

Gweler hefyd