Thomas Williams, Llanidan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
D22 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
llun - a dyna ddigon am heno!
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Thomas Williams of Llanidan.jpeg|250px|bawd|Thomas Williams, tua 1792-95. Portread gan William Lawrence, olew ar gynfas, yn [[Amgueddfa Genedlaethol Cymru]].]]
Roedd '''Thomas Williams, Llanidan''' ([[13 Mai]] [[1737]] - [[30 Tachwedd]] [[1802]]) yn un o ddiwydiannwyr amlycaf y [[18fed ganrif]].
Roedd '''Thomas Williams, Llanidan''' ([[13 Mai]] [[1737]] - [[30 Tachwedd]] [[1802]]) yn un o ddiwydiannwyr amlycaf y [[18fed ganrif]].


Llinell 10: Llinell 11:
*J. R. Harris ''The Copper King: A biography of Thomas Williams of Llanidan'' (Gwasg Prifysgol Lerpwl, 1964).
*J. R. Harris ''The Copper King: A biography of Thomas Williams of Llanidan'' (Gwasg Prifysgol Lerpwl, 1964).


{{DEFAULTSORT:Williams, Thomas}}

[[Categori:Diwydiant copr Cymru|Williams, Thomas]]
[[Categori:Genedigaethau 1737]]
[[Categori:Pobl o Ynys Môn|Williams, Thomas]]
[[Categori:Marwolaethau 1802]]
[[Categori:Genedigaethau 1737|Williams, Thomas]]
[[Categori:Diwydiant copr Cymru]]
[[Categori:Marwolaethau 1802|Williams, Thomas]]
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig]]
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]]


[[en:Thomas Williams of Llanidan]]
[[en:Thomas Williams of Llanidan]]

Fersiwn yn ôl 23:32, 19 Awst 2010

Thomas Williams, tua 1792-95. Portread gan William Lawrence, olew ar gynfas, yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Roedd Thomas Williams, Llanidan (13 Mai 1737 - 30 Tachwedd 1802) yn un o ddiwydiannwyr amlycaf y 18fed ganrif.

Roedd Thomas Williams yn fab i Owen Williams, Cefn Coch, Llansadwrn, Ynys Môn. Daeth yn gyfreithiwr, a bu'n cynrychioli teulu Hughes, Llysdulas, yn eu hachos yn erbyn Syr Nicholas Bayly o Blas Newydd ynghylch perchenogaeth gwaith copr Mynydd Parys ger Amlwch. Parhaodd yr achos yma am tua naw mlynedd, ac ni setlwyd y mater hyd 1778.

O gwmpas 1785 daeth yn brif reolwr Mynydd Parys, oedd erbyn hynny ym mherchenogaeth Iarll Uxbridge a Hughesiaid Llysdulas. Tyfodd y gwaith yn fawr dan ei reolaeth ef, a gallodd nid yn unig gynyddu cynhyrchiad copr ond hefyd sefydlu nifer o ddiwydiannau eraill cysylltiedig a'r diwydiant copr. Rhwng 1787 a 1792 bu yn rheoli'r Cornish Metel Company, oedd yn golygu ei fod yn rheoli bron y cyfan o ddiwydiant copr Prydain. Erbyn tua 1800 dywedid bod tua hanner diwydiant copr y byd yn ei ddwylo ef. Roedd yn boblogaidd gyda'r gweithwyr, a'i galwai'n "Twm Chwarae Teg", ond yn llai poblogaidd gyda'i gystadleuwyr mewn busnes.

Daeth yn Aelod Seneddol dros Great Marlow yn Lloegr yn 1790. a chadwodd y sedd hyd ei farwolaeth. Dywedir mai ef oedd y gŵr cyfoethocaf yng Nghymru erbyn hynny.

Llyfryddiaeth

  • J. R. Harris The Copper King: A biography of Thomas Williams of Llanidan (Gwasg Prifysgol Lerpwl, 1964).