Y Fyddin Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: ro:Armata Roșie
B robot yn ychwanegu: mr:लाल सैन्य
Llinell 46: Llinell 46:
[[lv:Sarkanā armija]]
[[lv:Sarkanā armija]]
[[mk:Црвена армија]]
[[mk:Црвена армија]]
[[mr:लाल सैन्य]]
[[ms:Tentera Merah]]
[[ms:Tentera Merah]]
[[nl:Rode Leger (Sovjet-Unie)]]
[[nl:Rode Leger (Sovjet-Unie)]]

Fersiwn yn ôl 05:21, 17 Awst 2010

Delwedd:T34 85 4.jpg
Tanc T34 y Fyddin Goch ger Porth Brandenburg, Berlin, 1945

Y Fyddin Goch (Rwseg: Рабоче-крестьянская Красная Армия, Rabotsje-krestjanskaja Krasnaja Armieja, Byddin Goch y Gweithwyr a'r Ffermwyr) oedd yr enw a ddefnyddid am fyddin yr Undeb Sofietaidd.

Yn swyddogol, ffurfiwyd y Fyddin Goch ar 23 Chwefror 1918, fel gwarchodlu i blaid y Bolsieficiaid. Ystyrir mai Leon Trotski a'i ffurfiodd. Wedi'r gwrthryfel, daeth yn fyddin y wladwriaeth.

Yn 1920 daeth Michail Tuchatsievski yn gadlywydd arni, swydd a ddaliodd hyd 1937. Y flwyddyn honno, dienyddiwyd ef a llawer o uchel-swyddogion eraill gan yr NKVD ar orchymyn Stalin. Yn 1941, ymosododd yr Almaen ar yr Undeb Sofietaidd, ac yn y misoedd cyntaf dioddefodd y Fyddin Goch golledion enfawr, ac fe'i gyrrwyd yn ôl bron hyd Moscow. Yn raddol, dechreuodd y Fyddin Goch ad-ennill tir, ac enillodd fuddugoliaethau allweddol ym Mrwydr Stalingrad a Brwydr Kursk. Dan gadfridogion fel Georgi Zhukov gyrrwyd yr Almaenwyr yn ôl tua'r gorllewin, ac yn 1945, cipiodd y Fyddin Goch ddinas Berlin.