Gwyddor gwybodaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B trwsio cyswllt
ehangu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Disgyblaeth academaidd]] a [[maes cyd-ddisgyblaethol]] sy'n ymwneud â chynhyrchiad, casgliad, trefniadaeth, storfa, adalwad, a lledaeniad [[gwybodaeth]] cofnodedig yw '''gwyddor gwybodaeth'''. Mae'n astudio cymhwysiad a defnydd gwybodaeth o fewn [[cyfundrefn]]au, a'r rhyngweithiad rhwng pobl, cyfundrefnau, a [[system gwybodaeth|systemau gwybodaeth]]. Yn aml, astudir gwyddor gwybodaeth fel cangen o [[cyfrifiadureg|gyfrifiadureg]] neu [[gwybodeg|wybodeg]] ac mae ganddo berthynas agos â'r [[gwyddorau cymdeithas]] a [[gwyddor gwybyddol|gwybyddol]].

Mae gwyddor gwybodaeth yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth [[datrys problemau|problemau]] yn gyntaf, ac yna cymhwyso [[technoleg gwybodaeth]] (neu [[technoleg|dechnolegau]] eraill) fel bo'r angen. Mae sylw wedi cael ei roi ym mlynyddoedd diweddar i [[rhyngweithiad dynol-cyfrifiadurol|ryngweithiad dynol-cyfrifiadurol]], [[cylchwedd]], [[y we semantig]], a'r ffyrdd mae pobl yn cynhyrchu, defnyddio a darganfod gwybodaeth.

Weithiau caiff gwyddor gwybodaeth ei chymysgu â [[llyfrgellyddiaeth]], [[cyfrifiadureg]], [[gwybodeg]], a [[theori gwybodaeth]], ac yn aml caiff ei grwpio gyda un o'r pynciau yma (gan amlaf llyfrgellyddiaeth, neu gyfrifiadureg).

Fersiwn yn ôl 23:19, 9 Tachwedd 2006

Disgyblaeth academaidd a maes cyd-ddisgyblaethol sy'n ymwneud â chynhyrchiad, casgliad, trefniadaeth, storfa, adalwad, a lledaeniad gwybodaeth cofnodedig yw gwyddor gwybodaeth. Mae'n astudio cymhwysiad a defnydd gwybodaeth o fewn cyfundrefnau, a'r rhyngweithiad rhwng pobl, cyfundrefnau, a systemau gwybodaeth. Yn aml, astudir gwyddor gwybodaeth fel cangen o gyfrifiadureg neu wybodeg ac mae ganddo berthynas agos â'r gwyddorau cymdeithas a gwybyddol.

Mae gwyddor gwybodaeth yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth problemau yn gyntaf, ac yna cymhwyso technoleg gwybodaeth (neu dechnolegau eraill) fel bo'r angen. Mae sylw wedi cael ei roi ym mlynyddoedd diweddar i ryngweithiad dynol-cyfrifiadurol, cylchwedd, y we semantig, a'r ffyrdd mae pobl yn cynhyrchu, defnyddio a darganfod gwybodaeth.

Weithiau caiff gwyddor gwybodaeth ei chymysgu â llyfrgellyddiaeth, cyfrifiadureg, gwybodeg, a theori gwybodaeth, ac yn aml caiff ei grwpio gyda un o'r pynciau yma (gan amlaf llyfrgellyddiaeth, neu gyfrifiadureg).

Hanes

Darganfyddir gwreiddiau gwyddor gwybodaeth yn nogfennaeth, maes ag ymddangosodd pan ddatblygwyd cyfrifiaduron digidol yn yr 1940au a chynnar yr 1950au. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd ymddangosodd yr angen i mwyhau trachywiredd a dyfnder chwiliadau llyfryddiaethol, ag arweiniodd at ymdrechion i newid dulliau traddodiadol o ddosbarthiad yn systemau cyfrifiadur-gytûn. Cyflwynwyd chwilio awtomataidd ffeiliau, mynegeio cydgysylltiedig, a geirfâu rheoledig fel ymateb i'r angen cynyddol i greu mynediad hawdd i gynnwys cylchgronau gwyddonol. Cafodd crynodebau awtomataidd o ddogfenni eu datblygu i symleiddio mynediad i ddarganfyddiadau ymchwil mwy byth.

Yn yr 1960au trosglwyddwyd casgliadau enfawr o ddogfenni i gronfeydd data neu ffurfiau di-argraffedig, lle gall chwilio trwy'r holl wybodaeth gan ddefnyddio cyfrifiadur. Erbyn 1980 roedd gwyddor gwybodaeth yn faes cyd-ddisgyblaethol, ac yn ddiweddar mae meysydd megis deallusrwydd artiffisial a thecholeg gwybodaeth o fewn addysg wedi dod yn bwysig iawn.

Gweler hefyd

Cysylltiadau allanol