Llyfrgellyddiaeth

Oddi ar Wicipedia

Disgyblaeth academaidd sy'n ymwneud ag astudiaethau llyfrgelloedd a meysydd gwybodaeth yw llyfrgellyddiaeth.[1]

Sefydlwyd yr ysgol gyntaf i astudio gwyddoniaeth llyfrgellyddol gan Melvil Dewey ym Mhrifysgol Columbia ym 1887.[2]

Mae hyn yn cynnwys astudiaeth o sut mae adnoddau llyfrgelloedd yn cael eu defnyddio a sut mae pobl yn rhyngweithio gyda systemau llyfrgelloedd. Mae hefyd yn ymchwilio i drefniadaeth gwybodaeth ar gyfer adalwad effeithlon. Mae pynciau sylfaenol llyfrgellyddiaeth yn cynnwys caffael, catalogio, trefniadaeth, a chadw deunyddiau.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Defnyddiodd y system Dewey (DDC) y term "Economi'r Llyfrgell" am Ddosbarth 19 yn y cyhoeddiad cyntaf ym 1876. Yn yr ail gyhoeddiad (a phob cyhoeddiad dilynol) fe'i symudwyd i Ddosbarth 20. Defnyddiwyd y term hwn ("Library economy") hyd at y 14eg cyhoeddiad - yn 1942. O'r 15ed cyhoeddiad defnyddiwyd y term "Gwyddoniaeth Llyfrgellyddol" (" Library Science", a ddefnyddiwyd hyd at y defnydd olaf yn 1965 pan gafodd ei ddisodli gan "Gwyddoniaeth Gwybodaeth a Llyfgellyddiaeth" "Library and Information Science" (LIS) yn y 18fed cyhoeddiad ac wedyn.
  2. (Saesneg) OCLC/org Resources for teachers and students of the DDC. OCLC. Adalwyd ar 3 Mai 2012.
Eginyn erthygl sydd uchod am lyfrgellyddiaeth, gwyddor gwybodaeth neu amgueddyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.