Ostrava: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: tr:Ostrava
B robot yn ychwanegu: gl:Ostrava
Llinell 26: Llinell 26:
[[fr:Ostrava]]
[[fr:Ostrava]]
[[fy:Ostrava]]
[[fy:Ostrava]]
[[gl:Ostrava]]
[[he:אוסטרבה]]
[[he:אוסטרבה]]
[[hr:Ostrava]]
[[hr:Ostrava]]

Fersiwn yn ôl 20:56, 18 Mai 2010

"Theatr Antonín Dvořák" yn Ostrava

Ostrava (Almaeneg: Ostrau) yw trydydd dinas y Weriniaeth Tsiec o ran poblogaeth, a phrifddinas rhanbarth Morafia-Silesia. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 306.531.

Saif Ostrava yn nwyrain y wlad, ar afon Oder. Ffurfiwyd y ddinas fel y mae heddiw yn 1945, pan unwyd Moravská Ostrava (Almaeneg: Mährisch Ostrau) a Slezská Ostrava (Schlesisch Ostrau, hefyd: Polnisch Ostrau). Saif ar y ffîn rhwng tiriogaethau hanesyddol Morafia a Silesia, ar hen lwybr masnach. Mae'n ganolfan ddiwydiannol bwysig, er bod llawer o'r pyllau glo a gweithfeydd dur yn yr ardal wedi cau yn y blynyddoedd diwethaf, a diweithdra wedi cynyddu.

Ceir dwy brifysgol yma, a phedair theatr, yn cynnwys y Národní divadlo moravskoslezské (Theatr Genedlaethol Morafia-Silesia), sydd a dau adeilad, un wedi ei enwi ar ôl Antonín Dvořák.