Bulkeley (teulu): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) ehangu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) cat |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
==Ffynonellau== |
==Ffynonellau== |
||
* [http://yba.llgc.org.uk/cy/c-BULK-ELE-1400.html Teulu Bulkeley yn Y Bywgraffiadur Ar-lein] |
* [http://yba.llgc.org.uk/cy/c-BULK-ELE-1400.html Teulu Bulkeley yn Y Bywgraffiadur Ar-lein] |
||
[[Categori:Hanes Cymru]] |
|||
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]] |
|||
[[Categori:Teuluoedd Cymreig]] |
Fersiwn yn ôl 07:26, 2 Mawrth 2010
Teulu a fu'n ddylanwadol ar Ynys Môn ac ardaloedd cyfagos am rai canrifoedd oedd teulu Bulkeley. Eu prif drigfan oedd Baron Hill gerllaw Biwmares, ond roedd nifer o ganghennau o'r teulu.
O Loger y daeth y teulu yn wreiddiol, ond ymddengys eu bod ym Môn cyn 1450. Heblaw y prif gangen, roedd cangen y Gronant a'r Dronwy; y mwyaf adnabyddus o'r rhain yw Syr John Bulkeley o Bresaddfed. Roedd hefyd gangen Porthamel, a ddaeth i ben pan saethodd Francis Bulkeley ei hun yn 1714. Yr aelod mwyaf adnabyddus o gangen y Brynddu oedd William Bulkeley, y dyddiadurwr.
Cynrychiolwyd Sir Fôn a'i bwrdeisdrefi yn San Steffan gan aelodau o deulu Bulkeley neu eu cefnogwyr bron yn ddi-fwlch o ganol y 16eg ganrif hyd ganol y 19eg ganrif. Daeth y brif linach i ben pan fu farw'r seithfed Feicownt heb blant yn 1822. Ei etifedd oedd Syr Richard Williams, mab ei hanner brawd, ac yn 1827 newidiodd ef ei enw i Syr Richard Bulkeley Williams Bulkeley. Mae'r teulu Williams Bulkeley yn parhau i fyw yn yr ardal, er bod Baron Hill yn adfail.