Cyfres Dramâu'r Byd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau) |
B wedi symud Dramâu'r Byd i Cyfres Dramâu'r Byd: cyfres ydyw; wrth reswm mae 'Dramâu'r Byd' yn gallu cyfeirio hefyd at 'ddramâu'r Byd' yn gyffredinol.... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 21:05, 25 Chwefror 2010
Cyfres o ddramâu gorau'r byd yw'r Cyfieithiadau i'r Gymraeg yn "Dramâu'r Byd " a gyhoeddwyd gan Gwasg Prifysgol Cymru o 1969 i 1991. Prif olygydd y gyfres oedd yr Athro Gwyn Thomas.
Mae cyfresi eraill fel "Dramâu'r Byd " gan Gwasg Prifysgol Cymru sef "Y Ddrama yn Ewrop", yn ogystal â chyfresi "Dramâu Aberystwyth" gan CAA a "Cyfres yr Academi " gan yr Academi Gymreig
Rhestr o deitlau yn "Dramâu'r Byd " ac "Y Ddrama yn Ewrop"
- 1969 Diwéddgan, cyfieithiad gan Gwyn Thomas o Fin de Partie Samuel Beckett
- 1970 Wrth aros Godot, cyfieithiad gan Saunders Lewis o En Atente Godot Samuel Beckett
- 1972 Oidipus Frenin, un o'r Tri Drama Thebaidd gan Soffocles (497 BC - 406 BC) - cyfieithiad Euros Bowen (rhan o gyfres Y Ddrama yn Ewrop)
- 1976 Yr Ehedydd cyfieithiad gan Kathleen Parry L'Alouette Jean Anouilh
- 1978 Caligula gan Albert Camus a chyfieithywd i'r Gymraeg gan Emyr Tudwal Jones a Prys Morgan.
- 1979 Gwahoddiad i Ginio cyfieithiad gan John H Watkins o Le Rendez-vous de Senlis Jean Anouilh
- 1979 "Caeëdig Ddôr ('Huis clos1944). Y cyfieithiad i'r Gymraeg gan Richard T. Jones
- 1979 Oidipus yn Colonos, un o'r Tri Drama Thebaidd gan Soffocles (497 BC - 406 BC) - cyfieithiad Euros Bowen
- 1984 Electra, gan Soffocles (497 BC - 406 BC) - cyfieithiad Euros Bowen
- 1991 "Miss Julie" gan August Strindberg cyfieithwyd gan Glenda Carr a Michael Burns