Allectus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
[[Categori:Marwolaethau 296]] |
[[Categori:Marwolaethau 296]] |
||
[[Categori:Yr Ymerodraeth Rufeinig]] |
|||
[[ca:Al·lecte]] |
[[ca:Al·lecte]] |
Fersiwn yn ôl 21:37, 27 Rhagfyr 2009
Roedd Allectus (bu farw 296) yn uchel-swyddog Rhufeinig a lwyddodd i gipio grym ym Mhrydain o 293 hyd ei farwolaeth.
Gweithredai Allectus fel gweinidog cyllid i Carausius, oedd wedi cipio grym ym Mhrydain a rhan o Gâl am rai blynyddoedd. Yn 293 llwyddodd Constantius Chlorus, y Cesar yn y gorllewin, i gymeryd gogledd Gâl oddi wrtho a'i had-uno a'r ymerodraeth. Yr un flwyddyn llofruddiwyd Carausius gan Allectus, a ddaeth yn rheolwr Prydain yn ei le.
Ymosododd Constantius arni ym mis Medi 296. Ymddengys i lynges Constantius ei hun gael ei hatal rhag glanio gan y tywydd am gyfnod, ond glaniodd rhan arall o'r llynges dan Asclepiodotus. Gorchfyggwyd Allectus mewn brwydr, efallai ger Calleva Atrebatum (Silchester heddiw), a lladdwyd ef.
Ceir cyfeiriad at Allectus yn "hanes" Sieffre o Fynwy, Historia Regum Britanniae.