Peiriant ager: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Lao Ou (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Image:Parowoz Pm36-2.jpg|bawd|220px|Am tua chanrif a hanner, peiriannau ager a ddefnyddid ar y rheilffyrdd trwy'r byd. Mae'r |
[[Image:Parowoz Pm36-2.jpg|bawd|220px|Am tua chanrif a hanner, peiriannau ager a ddefnyddid ar y rheilffyrdd trwy'r byd. Mae'r injian hon yng [[Gwlad Pwyl|Ngwlad Pwyl]].]] |
||
'''Peiriant ager''' yw unrhyw [[peiriant|beiriant]] sy'n defnyddio [[ager]] (neu 'stêm') fel pŵer. Daeth y peiriannau hyn yn arbennig o bwysig tua diwedd y [[18fed ganrif]] ac yn ystod yn [[19eg ganrif]]. |
'''Peiriant ager''' yw unrhyw [[peiriant|beiriant]] sy'n defnyddio [[ager]] (neu 'stêm') fel pŵer. Daeth y peiriannau hyn yn arbennig o bwysig tua diwedd y [[18fed ganrif]] ac yn ystod yn [[19eg ganrif]]. |
Fersiwn yn ôl 14:57, 26 Awst 2009
Peiriant ager yw unrhyw beiriant sy'n defnyddio ager (neu 'stêm') fel pŵer. Daeth y peiriannau hyn yn arbennig o bwysig tua diwedd y 18fed ganrif ac yn ystod yn 19eg ganrif.
Ceir cofnod am beiriant ager tua 80 OC, peiriant a elwid yr aeolipile a ddisgrifir gan Hero o Alexandria. Nid oes cofnod i beiriant ager gael ei ddefnyddio ar gyfer pwrpas ymarferol yn y cyfnod yma, fodd bynnag. Yn 1712 datblygodd Thomas Newcomen beiriant ager y gellid ei ddefnyddio, er enghraifft mewn mwyngloddiau. Datblygwyd y peiriant gan James Watt, a gynhyrchodd beiriant oedd yn defnyddio 75% yn llai o lo i gynhyrchu'r ager na pheiriant Newcomen, ac y gellid ei ddefnyddio i redeg peiriannau ffatrioedd diwydiannol. Cafodd hyn ddylanwad aruthrol ar ddatblygiad y Chwyldro Diwydiannol.
Erbyn dechrau'r 19eg ganrif, roedd peiriannau ager wedi dod yn bwysig mewn trafnidiaeth, ar gyfer trenau a llongau. Erbyn hyn, mae llai o ddefnydd arnynt, ond mae ymchwil yn parhau ar dechnoleg peiriannau ager. Er enghraifft, defnyddir pwer yr haul yn Sbaen wedi'i ffocysu ar beiriant ager mawr, a hwnnw yn ei dro'n roi tyrbein ac yn creu trydan.[1]
Gweler hefyd