Krishna: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: fa:کریشنا |
B iaith |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Duw a addolir mewn sawl traddodiad [[Hindŵaeth|Hindŵaidd]] yw '''Krishna''' ([[Sansgrit]]: कृष्ण). Mae'n ffigwr canolog yn addoliad enwadau [[Vaishnaviaeth]]. |
Duw a addolir mewn sawl traddodiad [[Hindŵaeth|Hindŵaidd]] yw '''Krishna''' ([[Sansgrit]]: कृष्ण). Mae'n ffigwr canolog yn addoliad enwadau [[Vaishnaviaeth]]. |
||
Darlunnir Krishna fel rheol fel dyn ifanc croen tywyll neu glas, neu fel baban, fel bugail gwartheg ifanc yn canu'r ffliwt, fel yn y [[Bhagavata Purana]], neu fel tywysog ifanc sy'n rhoi cyngor athronyddol, e.e. fel cyfaill [[Arjuna]] yn y ''[[Bhagavad Gita]]'' (rhan o'r ''[[Mahabharata]]''). Ei arf yw'r disg ac mae'n marchogaeth [[Garuda]]. |
|||
Ceir nifer o chwedlau am Krishna mewn sawl traddodiad diwinyddol ac ysgol athroniaeth |
Ceir nifer o chwedlau am Krishna mewn sawl traddodiad diwinyddol ac ysgol athroniaeth Hindŵaidd. Er bod y manylion yn amrywio yn ôl dysgeidiaeth y traddodiad, mae rhai elfennau yn ganolog. Mae'r rhain yn cynnwys ymgnawdoliad dwyfol (''[[avatar]]''), plentyndod a llencyndod fel bugail gwartheg yng nghanol natur, yn aml yng nghwmni merched hardd, a gyrfa fel rhyfelwr [[arwr]]ôl ac athro neu gynghorydd. Mae'n enwog am ei garwriaethau niferus ac mae ganddo bedwar cymar, sef y duwiesau [[Radha]], [[Rukmini]], [[Satyabhama]] a [[Janbavati]]. |
||
Mae addoliad Krishna yn rhan o draddodiad [[Vaishnaviaeth]], sy'n ystyried mai [[Vishnu]] yw'r [[Duw]] Goruchel ac yn addoli ei ''avatars'' cysylltiedig, eu |
Mae addoliad Krishna yn rhan o draddodiad [[Vaishnaviaeth]], sy'n ystyried mai [[Vishnu]] yw'r [[Duw]] Goruchel ac yn addoli ei ''avatars'' cysylltiedig, eu cymheiriaid hwy, a'r seintiau ac athrawon a gysylltir â nhw. Credir fod Krishna yn ymgnawdoliad llawn o'r duw Vishnu ac felly'n un â Vishnu ei hun. Ond mae'r union berthynas rhwng Krishna a Vishnu, fel y mae wedi datblygu dros y canrifoedd, yn gymhleth ac amrywiol, gyda llawer o'i addolwyr yn ei ystyried yn dduw ar wahân, yn Oruchel ynddo ei hun. Mae'r traddodiadau Vaishnavaidd i gyd yn cydnabod fod Krishna yn ''avatar'' o Vishnu; mae eraill yn uniaethu Krishna gyda Vishnu tra bod rhai traddodiadau neilltuol, fel Vaishnavieth Gaudiya, Vallabha Sampradaya a'r Nimbarka Sampradaya, yn gweld Krishna fel y ''svayam bhagavan'', y Duw cysefin a thragwyddol, neu'r Arglwydd ei hun. |
||
Nid yw addoliad Krishna a pharch ato yn gyfyngedig i Hindŵaeth. Mae [[Jainiaeth]] yn ei gyfrif yn un o'r Tirthankara. Mae'n ymddangos fel arwr un o chwedlau'r [[Jataka]] mewn [[ |
Nid yw addoliad Krishna a pharch ato yn gyfyngedig i Hindŵaeth. Mae [[Jainiaeth]] yn ei gyfrif yn un o'r Tirthankara. Mae'n ymddangos fel arwr un o chwedlau'r [[Jataka]] mewn [[Bwdhaeth]]. Mae'r [[Baha'i]] yn ei ystyried yn broffwyd yn llinach [[Abraham]], [[Moses]], [[Iesu]], [[Mohamed]] ac eraill, yn cynnwys y [[Báb]]. Mae'r Gymuned Islamaidd [[Ahmadiyya]] yn ei ystyried yn broffwyd hefyd. |
||
===Gweler hefyd=== |
===Gweler hefyd=== |
||
* [[Rhestr duwiau a duwiesau Hindŵaidd]] |
* [[Rhestr duwiau a duwiesau Hindŵaidd]] |
||
* [[Vaishnaviaeth]] |
* [[Vaishnaviaeth]] |
||
[[Categori:Hindŵaeth]] |
[[Categori:Hindŵaeth]] |
Fersiwn yn ôl 01:57, 8 Gorffennaf 2009
- Am ystyron eraill gweler Krishna (gwahaniaethu).
Duw a addolir mewn sawl traddodiad Hindŵaidd yw Krishna (Sansgrit: कृष्ण). Mae'n ffigwr canolog yn addoliad enwadau Vaishnaviaeth.
Darlunnir Krishna fel rheol fel dyn ifanc croen tywyll neu glas, neu fel baban, fel bugail gwartheg ifanc yn canu'r ffliwt, fel yn y Bhagavata Purana, neu fel tywysog ifanc sy'n rhoi cyngor athronyddol, e.e. fel cyfaill Arjuna yn y Bhagavad Gita (rhan o'r Mahabharata). Ei arf yw'r disg ac mae'n marchogaeth Garuda.
Ceir nifer o chwedlau am Krishna mewn sawl traddodiad diwinyddol ac ysgol athroniaeth Hindŵaidd. Er bod y manylion yn amrywio yn ôl dysgeidiaeth y traddodiad, mae rhai elfennau yn ganolog. Mae'r rhain yn cynnwys ymgnawdoliad dwyfol (avatar), plentyndod a llencyndod fel bugail gwartheg yng nghanol natur, yn aml yng nghwmni merched hardd, a gyrfa fel rhyfelwr arwrôl ac athro neu gynghorydd. Mae'n enwog am ei garwriaethau niferus ac mae ganddo bedwar cymar, sef y duwiesau Radha, Rukmini, Satyabhama a Janbavati.
Mae addoliad Krishna yn rhan o draddodiad Vaishnaviaeth, sy'n ystyried mai Vishnu yw'r Duw Goruchel ac yn addoli ei avatars cysylltiedig, eu cymheiriaid hwy, a'r seintiau ac athrawon a gysylltir â nhw. Credir fod Krishna yn ymgnawdoliad llawn o'r duw Vishnu ac felly'n un â Vishnu ei hun. Ond mae'r union berthynas rhwng Krishna a Vishnu, fel y mae wedi datblygu dros y canrifoedd, yn gymhleth ac amrywiol, gyda llawer o'i addolwyr yn ei ystyried yn dduw ar wahân, yn Oruchel ynddo ei hun. Mae'r traddodiadau Vaishnavaidd i gyd yn cydnabod fod Krishna yn avatar o Vishnu; mae eraill yn uniaethu Krishna gyda Vishnu tra bod rhai traddodiadau neilltuol, fel Vaishnavieth Gaudiya, Vallabha Sampradaya a'r Nimbarka Sampradaya, yn gweld Krishna fel y svayam bhagavan, y Duw cysefin a thragwyddol, neu'r Arglwydd ei hun.
Nid yw addoliad Krishna a pharch ato yn gyfyngedig i Hindŵaeth. Mae Jainiaeth yn ei gyfrif yn un o'r Tirthankara. Mae'n ymddangos fel arwr un o chwedlau'r Jataka mewn Bwdhaeth. Mae'r Baha'i yn ei ystyried yn broffwyd yn llinach Abraham, Moses, Iesu, Mohamed ac eraill, yn cynnwys y Báb. Mae'r Gymuned Islamaidd Ahmadiyya yn ei ystyried yn broffwyd hefyd.